Relaxing and Enjoying the Little Things

Relaxing and Enjoying the Little Things

Ynysu Rhan 2 – gan Alyson Jenkins

Thanks to Alyson Jenkins Life Coach for this Welsh-medium article on Relaxing and enjoying the little things. 
 
Ymlacio a Mwynhau’r Pleserau Bach

Bu’n rhaid i mi ddysgu sut i ymlacio, ac mae hyn yn wir am lawer ohonom. Efallai eich bo’ chi ddim yn gweithio ar hyn o bryd, ond hyd yn oed mewn cyfnod segur a tawel mae’r gallu i ymlacio yn dal i fod yn broblem. I’r rhai ohonom sy’n gweithio, ac efallai gweithio o adre, mae’n broblem barhaus ac efallai hirsefydlog. Dyma rai awgrymiadau i’ch help chi ymlacio.

Anadlu’n ddwfn – bola fel balŵn

Maddeuwch i mi am ail adrodd hyn, ond mae e mor bwysig! Mae anadlu o’r bol yn tawelu’r meddwl a’r corff a’n helpu i ymlacio.

Wrth anadlu i mewn dychmygwch fod eich bola yn llenwi ag aer – mae’n ymestyn fel balŵn.  Yna wrth anadlu allan mae’r ‘balŵn’ yn mynd i lawr. Mae’r ffordd hyn o anadlu yn groes i sut rydym yn anadlu fel arfer, felly rhaid ymarfer, mae e’n teimlo’n od i ddechrau ond mae’n werth dyfalbarhau. 

Sylwi 

Un o’r pethau gall newid eich cyflwr yn gyflym yw SYLWI ar be’ sy’n mynd ymlaen ynoch chi – beth sy’n meddiannu eich meddwl? Beth am eich corff? – ble mae’r tensiwn? Pa emosiynau sy’n bresennol? Mae’r broses o stopio a sylwi yn ddigon i help ni i ymlacio. 

Ceisiwch ganolbwyntio yn y foment hon gymaint â phosib. Sylwch ar yr hyn rydych chi’n gallu synhwyro – cyffwrdd, gweld, arogli, blasu – y byd o’ch cwmpas. Ceisiwch gadw eich ffocws yn y dydd, i ganolbwyntio ar heddiw, a’r hyn y gallwch wneud a mwynhau heb feddwl gormod am yfory (neu ddoe).

Unigedd nid Unigrwydd 

Mae rhai ohonom yn byw ar ein pen ein hun ac mae digon o unigedd wrth ynysu, ond dydi hyn ddim yn golygu unigrwydd. Mae unigedd (solitude) yn gallu fod yn bleser mawr lle mae cyfleoedd a phleserau bach ar gael. Dwy’n hoff iawn o fod ar ben fy hun dyddiau yma, dyna sut rwy’n ail-lenwi’r batris. 

Os ydym mewn teulu neu yn dal i weithio mae’n bwysig cael ychydig o unigedd – ceisiwch ddodi amser naill ochor bob dydd am amser tawel ar ben eich hun.

“Bydd eich unigedd yn gefnogaeth ac yn gartref i chi, hyd yn oed yng nghanol amgylchiadau anghyfarwydd, ac ohono byddwch yn darganfod pob llwybr”

Rilke

Pethau bach gall rhoi pleser:
  • Darllen – unrhyw beth: cylchgronau, barddoniaeth, nofelau, llyfrau ffeithiol …ond nid y newyddion!
  • Syllu ar y cymylau.
  • Ffilmiau
  • Dysgu rysáit newydd.
  • Gwnewch eich cartref yn braf – pethau bach i blesio
  • Cerddwch o amgylch eich strydoedd lleol gyda’r nos – os ydych chi’n byw yn y wlad, ewch â thortsh – Cadwch yn ddiogel
  • Gwrandewch ar fiwsig – hoff fiwsig a darganfod miwsig newydd
  • Ysgrifennu – unrhywbeth. Does dim rhaid  i neb ei weld
  • Dawnsiwch
  • Garddio – neu blannu potiau ffenest
  • Canwch
  • Ac ati …
Natur 

Mae’n iawn i fod yn yr awyr agored cyn belled nad ydym yn agos at eraill, felly ewch allan – i’r ardd, i’r caeau, y goedwig, y parc … unrhyw le sydd â gwyrddni. Mae sylwi ar natur yn ein helpu i deimlo’n ddigynnwrf – yn union fel y mae bod ger dŵr yn gwneud inni deimlo’n dda. Mae yna wyddoniaeth i ategu hyn, ac rydyn ni’n ei wybod ar lefel gyntefig.

Mae rhai diwrnodau yn wael 

Rhaid derbyn bod bywyd yn gallu fod yn galed ac yn boenus ar brydiau. Os dderbyniwch y bydd bywyd ac unigedd fel hyn weithiau, a derbyn y ffaith ni all fod yn hapus bob amser – yna ni fydd yr isafbwyntiau’n teimlo mor ddrwg a bydd y diwrnod yn haws. Mae bywyd yn ysgafnach wrth i ni dderbyn y drwg yn ogystal â’r da, a chofio bod popeth yn pasio ac yn newid. 

Cofiwch Gysylltu 

Codwch y ffôn, danfonwch e-bost neu lythyr. Mae’r cyfryngau cymdeithasol, Zoom a Skype yn agor lan byd arall … cyfle i gyfathrebu mewn ffyrdd gwahanol. 

Os ydych yn unig ac yn dioddef mewn unrhyw ffordd gallwch alw’r Samariaid 24/7 ac ewch at meddwl.org

Leave a reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *