Dyma beth rydyn ni wedi bod yn wneud!
Cynhaliwyd 9 digwyddiad crefft a disgo distaw mewn llyfrgelloedd ar draws Castell-nedd Port Talbot. Mae’r digwyddiadau am ddim, yng nghanol ein cymunedau ac a gynhelir trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhan fwyaf o’r mynychwyr yn deuluoedd di-gymraeg sy’n cael y cyfle i glywed a defnyddio yn ystod gwyliau’r haf. Cynhaliwyd bore hwyl i deuluoedd yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe, lle cafwyd perfformiad gan Rhiannon Emily!
Eto eleni, cynhaliwyd y 9fed PlanTawe, digwyddiad blynyddol i blant ar y cyd gyda Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot a Menter Iaith Abertawe yn Barc Waverly, Clydach. Daeth dros 450 o bobl i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau hwylus a pherfformiad gan Siani Sionc! Yn ogystal â hyn, roedd amrywiaeth o bartneriaid yn bresennol yn hyrwyddo eu gwaith ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Diolch enfawr i’r llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a’n partneriaid am ein gwahodd ni! Edrych ymlaen at flwyddyn nesaf yn barod! Os hoffech ddilyn gwaith Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot tanysgrifiwch yma!











