Addysg Gymraeg

Addysg Gymraeg

Castell-nedd Port Talbot

Beth bynnag yw iaith y cartref, gall addysg Gymraeg gynnig sgiliau ychwanegol i dy blentyn a mwy o gyfleoedd yn y dyfodol.

Mae ymchwil yn dangos bod siarad mwy nag un iaith yn rhoi hwb i blant mewn sawl ffordd. Gall bod yn dwyieithog:

  • Wneud dysgu ieithoedd eraill yn haws, heb son am gyflwyno plant i draddodiadau a diwylliannau gwahanol.
  • Gael effaith gadarnhaol ar yr ymennydd
  • Fod yn fantais amlwg wrth chwilio am waith.

Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg y sir yn bartneriaid gwerthfawr i’r Fenter, ac mae’r perthynas cryf sydd gyda ni yn mynd o nerth i nerth.

Mae’r Fenter wedi creu Pecyn Addysg i farchnata Addysg Gymraeg o fewn Castell-nedd a Phort Talbot. Mae’r Pecyn yma ar gael mewn amrywiaeth o weithgareddau’r Fenter, neu gallwch lawrlwytho copi yma. 

Cylchoedd Meithrin

Prif ddarparwyr addysg cyn ysgol cyfrwng Cymraeg yw Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM).

Mae MYM yn rhedeg amrywiaeth o ddarpariaethau ym mhob rhan o Gymru. Does dim rhaid eich bod chi na’ch plentyn yn medru siarad Cymraeg er mwyn gallu manteisio ar y ddarpariaeth.
Cylch Meithrin

Mae Cylchoedd Meithrin yn darparu ar gyfer plant o 2 flwydd oed hyd at oedran ysgol.

Gall plant fynd i’r Cylch Meithrin, os ydynt yn siarad Cymraeg ai peidio. Maent yn cynnig cyfleoedd i blant chwarae, dysgu a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn yr oed yma mae iaith lafar plant yn datblygu’n gyflym iawn. Bydd rhoi cyfle iddynt wneud ffrindiau, a mwynhau chwarae yn eu cwmni drwy gyfrwng y Gymraeg yn gosod seiliau cryf i adeiladu arnynt.

Mae tua 550 o gylchoedd meithrin ledled Cymru, gyda dros 10,000 o blant yn eu mynychu. (Ffigyrau MYM)

Cylchoedd Ti a Fi

Mae Cylchoedd Ti a Fi yn darparu ar gyfer plant o enedigaeth hyd at oedran ysgol.
Maent yn cynnig cyfleoedd i rieni a gwarchodwyr fwynhau chwarae gyda’u plant mewn awyrgylch anffurfiol drwy gyfrwng y Gymraeg, wrth gymdeithasu gyda rhieni eraill. Does dim rhaid eich bod chi na’ch plentyn yn medru siarad Cymraeg i ymuno âr Cylch Ti a Fi lleol. Bydd croeso i chi ymuno yn y gweithgareddau, ac efallai i chi ddysgu ychydig o Gymraeg eich hunan ar y ffordd.

Mae rhai Cylchoedd Ti a Fi yn rhedeg cyrsiau ‘Cymraeg i’r Teulu’ sy’n cyflwyno storiau, caneuon a hwiangerddi Cymraeg a rhai brawddegau syml iiw defnyddio yn y cartref.

Am fanylion pellach am Mudiad Ysgolion Meithrin neu i ddarganfod eich Cylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin lleol, ewch i’w gwefan:- www.mym.co.uk.

Ysgolion Cynradd
YGG Pontardawe
Alltycham Drive, Pontardawe, SA8 4JX
Prifathro: Mr Martin Evans
Ffôn: 01792 862136 Fax: 01792 862136
ebost: yggpontardawe@npted.org
Gwefan: http://www.yggpontardawe.ik.org
 
Ysgol Gymraeg Ystalyfera (Adran Gynradd)
Heol Glanyrafon
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2JJ
Ffôn: 01639 846900
ebost: YsgolYstalyferaCynradd@npt.school
 
Ysgol Gynradd Gymraeg Blaendulais
Blaendulais, SA10 9AA
Prifathrawes: Mrs Kate Windsor Brown
Ffôn: 01639 700342 Fax: 01639 700342
ebost: yggblaendulais@npted.org
Gwefan: http://www.yggblaend.baglanit.org.uk/
 
Ysgol Gynradd Gymraeg Castell-nedd
Heol Woodland, SA11 3AL
Prifathrawes: Mrs Gayle Shenton
Ffôn: 01639 637701 Fax: 01639 639772
ebost: yggcastellnedd@npted.org
Gwefan: http://www.yggcn.co.uk/
 
Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Nedd
Stryd Newydd, Glynnedd, SA11 5AA
Prifathrawes: Mrs Christine Evans
Ffôn: 01639 720530 Fax: 01639 729175
ebost: yggcwmnedd@npted.org
Gwefan: http://gymraegcwmnedd.createprimary.net/
 

Ysgol Gynradd Gymraeg Gwaun-Cae-Gurwen
Heol Newydd, Gwaun Cae Gurwen, SA18 1UN
Prifathro: Mr Martin Evans
Ffôn: 01269 822238 Fax: 01269 824956
ebost: ygggwauncaegurwen@npted.org
Gwefan: http://www.gwauncaegurwen.baglanit.org.uk

Ysgol Gynradd Gymraeg Rhosafan
Marine Drive, SA12 7NN
Prifathrawes: Mrs Julia Griffiths
Ffôn: 01639 896338 Fax: 01639 882932
ebost: yggrhosafan@npted.org
Gwefan: http://www.rhosafan.baglanit.org.uk/

Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle’r Ynn
Llansawel Crescent, SA11 2UN
Prifathro: Cerith Humphreys
Ffôn: 01639 812229
ebost: yggtylerynn@npted.org
Gwefan: http://www.tylerynn.ik.org/

Ysgol Gynradd Gymraeg D Cwmllynfell
Heol Y Bryn, Cwmllynfell, SA9 2FJ
Prifathrawes: Mrs Lynne Brier 
Ffôn: 01639 830630
ebost: yggdcwmllynfell@npted.org

Ysgol Gynradd GD Trebannws
Heol Abertawe, Trebannws, Pontardawe, SA8 4BL
Prifathrawes: Mrs Rhian Evans
Ffôn: 01792 864004 Fax: 01792 830930
ebost: yggdtrebannws@npted.org
Gwefan: http://www.trebannws.ik.org/

Ysgol Gynradd Tregeles
39 St. Johns Terrace, Neath Abbey, Neath SA10 7ND
Prifathrawes Mrs L Vaughan
01792 966655
swyddfa@yggtregeles.npt.school

Ysgolion Uwchradd

Ysgol Gymraeg Ystalyfera (Uwchradd)
Heol Ynysydarren
Ystalyfera
Castell-nedd Port Talbot
SA9 2DY
Prifathro: Laurel Davies
Ffôn: 01639 842129 Fax: 01639 845681
ebost: ygystalyfera@npted.org
Gwefan: www.ysgolystalyferabrodur.cymru/

Ysgol Gymraeg Bro Dur
Rhodfa’r Môr,
Traeth Melyn
Port Talbot
Castell-nedd Port Talbot
SA12 7EQ
(01639) 502895
Ffôn : (01639) 502895
eBost: YsgolBroDurUwchradd@npt.school
Gwefan: www.ysgolystalyferabrodur.cymr