Teuluoedd

Teuluoedd

Mae’r Fenter wedi bod yn darparu digwyddiadau a gweithgareddau i deuluoedd er blynyddoedd bellach. Rydym yn cynnal sesiynau canu rheolaidd i blant bach a’u rhieni ar draws y sir, ac yn trefnu digwyddiadau teuluol yn ystod y gwyliau ysgol.

Hefyd, mae’r Fenter yn mynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan fudiadau eraill. Mae hyn yn ein helpu i’w cefnogi nhw ac yn gyfle gwych i feithrin cysylltiadau o bwys gyda rhieni. Rydym wedi datblygu llyfryn gwybodaeth defnyddiol i rieni. 

Sesiynnau Canu

Rydym yn cynnal sesiynau canu a rhigymau rheolaidd yn nifer o leoliadau ar draws y sir! Mae’r sesiynau hyn yn  rhad ac am ddim ac nid oes angen cofrestru—dewch yn eich blaen ar y dydd.

Dim ots os ydych chi’n siarad Cymraeg adref neu’n hollol newydd i’r iaith, mae’r sesiynau hyn yn ffordd hwyliog, a chroesawgar i gyflwyno’r Gymraeg i chi a’ch plentyn drwy ganeuon a rhigymau syml.

Am fwy o wybodaeth am y sesiynau yma edrychwch a’r calendr ar y tudalen cartref neu dilynwch ein cyfryngau cymdeithasol.

PlanTawe

Mae PlanTawe yn ddigwyddiad cymunedol gwych a gynhelir mewn partneriaeth â Menter Iaith Abertawe yng Nghlydach, Abertawe.

Rydym yn cynnal dau ddigwyddiad mawr bob blwyddyn—gwyliau’r haf a digwyddiad Nadoligaidd! Wedi’i gynllunio’n arbennig i blant bach a’u teuluoedd, mae PlanTawe yn  rhad ac am ddim ac yn llawn gweithgareddau hwyliog, adloniant, a chyfleoedd i fwynhau’r Gymraeg mewn awyrgylch cynnes a chroesawgar.