Celfyddydau

Celfyddydau

Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot

Yn chwilio am ffordd wych i gyfarfod pobl newydd, mwynhau cwmni da, a chael ychydig o hwyl? Mae ein nosweithiau cymdeithasol yn cynnig rhywbeth i bawb! Waeth a ydych chi’n siaradwr Cymraeg rhugl, newydd ddechrau dysgu, neu ddim ond eisiau mwynhau’r awyrgylch – mae croeso cynnes i bawb.

Ymunwch â ni i ganu caneuon Cymraeg gyda’n gilydd. Dewch â’ch offerynnau acwstig a’ch lleisiau! Bydd yr holl ganeuon yn Gymraeg, ond byddwn ni’n rhedeg y sesiwn yn ddwyieithog.
Bydd rhai taflenni cordiau ar gael gyda ni, ond mae croeso mawr i ddod â chaneuon eraill i ni ganu gyda’n gilydd.

Sesiwn Fach Cwmtawe

Hoffech chi ddysgu alawon gwerin traddodiadol? 🎻🎶
Dewch i ymuno â ni yn Sesiwn Fach Cwmtawe! P’un a ydych chi’n ddechreuwyr pur neu’n chwaraewr profiadol, mae hwn yn gyfle perffaith i ddysgu, ymarfer a mwynhau alawon gwerin Cymru mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar

Gigs

Mae’r Fenter yn trefnu gigs o bryd i’w gilydd er mwyn i’r gymuned dod ynghyd i weld bandiau neu berfformwyr Cymreig mewn leoliadau amrywiol. Os hoffech gweld band neu perfformwr penodol i ymweld a’ch ardal chi, cysylltwch â cymuned@micnpt.cymru.

Sesiynau Ukelele

Mae’r Fenter wedi gweld bod cynnig sesiynau i bobl dysgu offeryn trwy awyrgylch dwyieithog wedi bod yn lwyddiant mawr. Mae bobl yn cael y cyfle i ddysgu cerddoriaeth gwerin, yn ogystal ag eirfa ac i gwrdd a ffrindiau newydd.