








Amdanom Ni
Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn gweithredu ar draws yr ardal (ac o fewn Ardal AmanTawe) i hybu ac hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Rydym yn darparu ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau er mwyn rhoi’r cyfle i bobl defnyddio’r iaith, ond hefyd yn annog ac yn darparu gwybodaeth i bobl di-gymraeg am y manteision a chyfleoedd sydd i ddysgu.
Ers ei sefydlu yn 2002, mae’r Fenter wedi datblygu nifer o weithgareddau a phrosiectau er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y sir.
Cefndir Daearyddol ac Ieithyddol
Cefndir
Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991, ac yn y blynyddoedd ers hynny mae cymunedau ar draws Cymru wedi gweithredu i ffurfio Mentrau eu hunain. Erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yng Nghymru sy’n gwasanaethu pob rhan o Gymru.
Sefydlwyd Menter Iaith Aman Tawe yn 1994 i wasanaethu ardaloedd Cwmtawe, Dyffryn Aman a rhannau o dde Powys ac Abertawe. Sefydlwyd Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn 2002 ar ol i Fenter Aman Tawe gael ei rhannu’n ddwy. Datblygodd un hanner i fod yn Fenter Dyffryn Aman fel rhan o rwydwaith Mentrau Iaith Myrddin yn Sir Gar a ffurfiwyd Menter newydd sbon gyda’r hanner arall i wasanaethu Sir Castell-nedd Port Talbot.
Cefndir Ieithyddol
Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae tua 15.3% o boblogaeth y sir yn gallu siarad Cymraeg, sydd yn cyfateb i ryw 20,698 o bobl. Mae’r mwyafrif helaeth ohonynt yn byw ym mhen uchaf Cwmtawe a Dyffryn Aman gyda rhai cymunedau megis Gwaun Cae Gurwen, Cwmllynfell a Brynaman Isaf ymhlith yr ardaloedd Cymreiciaf yng Nghymru gyfan. Fodd bynnag, dyma’r ardaloedd a welodd y dirywiad mwyaf o safbwynt canran a niferoedd siaradwyr Cymraeg rhwng 2001-2011. Fel y nodir yn y tablau isod, mae rhai cymunedau megis Godre’r Graig ac Ystalyfera wedi gweld dirywiad o dros 10% o fewn degawd. Gellid dadlau mai’r ardal sydd yn ymestyn o Drebanos i Gwmllynfell a Rhos i Waun Cae Gurwen yw’r un bwysicaf yn y sir o safbwynt ei harwyddocâd ieithyddol gan mai yno y ceir y niferoedd a’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg. Yr ardal hon yw echel ieithyddol y sir a bydd Cynllun Strategol y Fenter yn rhoi sylw arbennig i gynlluniau sydd yn ceisio atgyfnerthu’r Gymraeg yn y cymunedau allweddol hyn dros y blynyddoedd nesaf. Byddai colli’r waddol hon o Gymreictod naturiol yn sicr o gael effaith seicolegol ddirfawr ar weddill y sir ac ar y twf sylweddol o blant sydd yn mynychu ysgolion Cymraeg y cylch a’r oedolion hynny sydd yn dysgu’r iaith o’u gwirfodd. Dyma un o’r rhesymau pam y penderfynnodd Bwrdd yr Iaith sefydlu PartnerIAITH yn 2011 ar gyfer ardal Aman Tawe a phenodi swyddogion llawn amser i hybu’r Gymraeg yn y pentrefi nodedig hyn.
Y mae’r tabl isod yn dangos y newid o ran canran o safbwynt siaradwyr Cymraeg yn y cymunedau hyn rhwng 2001 a 2011:-
Cymuned | % Siaradwyr Cymraeg (2001) | % Siaradwyr Cymraeg (2011) | % Newid |
| Cwmllynfell | 68.2 | 58.8 | -9.4 |
| Brynaman Isaf | 68.1 | 60.8 | -7.3 |
| Gwaun-Cae-Gurwen | 67.9 | 55.8 | -12.1 |
| Ystalyfera | 54.6 | 46.0 | -8.6 |
| Trebanos | 42.4 | 33.6 | -8.8 |
| Godre’r Graig | 41.5 | 30.1 | -11.4 |
| Pontardawe | 37.4 | 31.0 | -6.4 |
| Alltwen | 35.9 | 29.5 | -6.4 |
| Rhos | 28.6 | 24.7 | -3.9 |
(Ffynhonnell: Cyfrifiad 2001/2011)
Er bod canrannau yn adlewyrchiad da o ddwysedd siaradwyr Cymraeg maent i raddau helaeth yn gallu bod yn gamarweiniol fel mesur o hyfywedd iaith. Mae niferoedd ar y llaw arall yn rhoi darlun manylach o safbwynt newidiadau demograffaidd. Gweler yn y tabl isod fel y mae cwymp sylweddol wedi digwydd yn y niferoedd o siaradwyr yr iaith dros gyfnod o ddegawd mewn cymunedau traddodiadol Gymraeg fel Cwmllynfell, Brynaman Isaf, Gwaun Cae Gurwen ac Ystalyfera. Mae colli cymaint â hyn o siaradwyr mewn cyfnod cymharol fyr yn gwanhau sylfaen ieithyddol yr ardal ac yn arwain at ddirywiad cyflymach wrth i’r shifft iaith danseilio hyder a pharodrwydd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn peuoedd cymdeithasol amrywiol.
Y mae nifer o resymau paham y gwelir erydiad ieithyddol yn digwydd mewn ardaloedd sydd â chanrannau a niferoedd cymharol uchel o siaradwyr Cymraeg – nodwedd sydd yn gyffredin i gymunedau cyffelyb sydd yn ymestyn ar draws Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth. Ymhlith y prif ffactorau sydd yn cyfrannu tuag at ddirywiad iaith mae:-
- Diffyg trosglwyddiad iaith yn y cartref
- Allfudo/Mewnfudo
- Canfyddiad negyddol o werth cynhenid yr iaith
- Diffyg ymwybyddiaeth o fanteision dwyieithrwydd
- Diffyg hyder Cymry Cymraeg
- Ymlediad y Saesneg i beuoedd traddodiadol y Gymraeg
- Priodasau cymysg eu hiaith
- Grym y dylanwad Eingl-Americanaidd ar ddiddordebau plant a phobl ifainc
- Mwy o farwolaethau na genedigaethau ymhlith teuluoedd Cymraeg
Cymuned | Siaradwyr Cymraeg (2001) | Siaradwyr Cymraeg (2011) | Newid | % Newid Cymharol |
| Cwmllynfell | 741 | 669 | -72 | -9.72 |
| Brynaman Isaf | 861 | 776 | -85 | -9.87 |
| Gwaun-Cae-Gurwen | 1,860 | 1,572 | -288 | -15.48 |
| Ystalyfera | 1,614 | 1,339 | -275 | -17.04 |
| Trebanos | 580 | 459 | -121 | -20.86 |
| Godre’r Graig | 580 | 473 | -107 | -18.45 |
| Pontardawe | 1,826 | 1,624 | -202 | -11.06 |
| Alltwen | 800 | 664 | -136 | -17.0 |
| Rhos | 692 | 588 | -104 | -15.03 |
(Ffynhonnell: Cyfrifiad 2001/2011)
Cyfrifiad 2011Adran etholiadol | Pob person 3 oed a throsodd | Pob person 3 oed a throsodd s’yn siarad Cymraeg | Canran 3 oed a throsoddsy’n siarad Cymraeg | |
| Castell Nedd Port Talbot | 135,281 | 20,698 | 15.3 | |
| Aberafan | 5,232 | 411 | 7.9 | |
| Aberdulais | 2,305 | 311 | 13.5 | |
| Alltwen | 2,251 | 664 | 29.5 | |
| Baglan | 6,627 | 557 | 8.4 | |
| Blaengwrach | 1,935 | 287 | 14.8 | |
| Llansawel – Dwyrain | 2,827 | 242 | 8.6 | |
| Llansawel – Gorllewin | 2,896 | 275 | 9.5 | |
| Bryn a Chwmafan | 6,330 | 1,024 | 16.2 | |
| Bryn-coch Gogledd | 2,139 | 297 | 13.9 | |
| Bryn-coch De | 5,706 | 699 | 12.3 | |
| Llangatwg | 1,647 | 211 | 12.8 | |
| Cimla | 3,835 | 350 | 9.1 | |
| Coedffranc Canolog | 3,870 | 425 | 11.0 | |
| Coedffranc Gogledd | 2,322 | 265 | 11.4 | |
| Coedffranc Gorllewin | 2,563 | 316 | 12.3 | |
| Creunant | 1,851 | 465 | 25.1 | |
| Cwmllynfell | 1,137 | 669 | 58.8 | |
| Cymer | 2,714 | 186 | 6.9 | |
| Dyffryn | 3,078 | 350 | 11.4 | |
| Glyncorrwg | 1,054 | 65 | 6.2 | |
| Glyn Nedd | 3,320 | 689 | 20.8 | |
| Godre’r graig | 1,571 | 473 | 30.1 | |
| Gwauncaegurwen | 2,823 | 1,576 | 55.8 | |
| Gwynfi | 1,314 | 92 | 7.0 | |
| Brynaman Isaf | 1,277 | 776 | 60.8 | |
| Margam | 2,908 | 295 | 10.1 | |
| Castell-nedd Dwyrain | 6,137 | 497 | 8.1 | |
| Castell-nedd Gogledd | 3,838 | 379 | 9.9 | |
| Castell-nedd De | 4,789 | 440 | 9.2 | |
| Onllwyn | 1,161 | 222 | 19.1 | |
| Pelennau | 1,113 | 178 | 16.0 | |
| Pontardawe | 5,232 | 1,624 | 31.0 | |
| Port Talbot | 5,457 | 518 | 9.5 | |
| Resolfen | 3,044 | 341 | 11.2 | |
| Rhos | 2,382 | 588 | 24.7 | |
| Sandfields Dwyrain | 6,692 | 504 | 7.5 | |
| Sandfields Gorllewin | 6,495 | 524 | 8.1 | |
| Blaendulais | 2,049 | 469 | 22.9 | |
| Taibach | 4,634 | 354 | 7.6 | |
| Tonna | 2,445 | 292 | 11.9 | |
| Trebannws | 1,367 | 459 | 33.6 | |
| Ystalyfera | 2,911 | 1,339 | 46.0 |
