Gŵyl Nadolig PlanTawe (ar y cyd gyda menter Iaith Abertawe a Chymraeg i blant CNPT/Abertawe)
Roedd Gŵyl Nadolig PlanTawe yn neuadd gymunedol Clydach yn llwyddiant mawr unwaith eto gyda dros 40 o deuluoedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe yna. Cyfle i bawb i wneud crefftau Nadoligaidd, gwrdd â Siôn Corn ac i ymuno a sesiwn canu – i gyd yn y Gymraeg!
Cadwch lygaid mas am ddyddiad am ein Gŵyl Haf PlanTawe ym mis Gorffennaf!
