Clwb Hwyl a Sbri!

Clwb Hwyl a Sbri!

Dyma'r Fenter yn dechrau clwb hwyl a sbri ar ôl ysgol yn 'Stafell Stwnsh i flwyddyn 6. Dechreuodd y clwb yn llwyddiannus iawn gyda sesiwn gwych o iwcalilis: lle wnaeth y disgyblion dysgu sut i chwarae 'lawr ar lan y môr'. Joio mas draw!

Roedd sŵn y chwerthin yn heintus wrth i'r plant mwynhau'r gemau eang! Gemau a wnaeth amrywio o helfa drysor i 'beth sydd yn y bocs'. Edrychwn ymlaen at Nos Fawrth nesaf lle fydd yr hwyl yn parhau!

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *