Ar Nos Wener, 29ain o Fawrth cafwyd gig anhygoel yn Nhafarn y Gwachel ym Mhontardawe gyda Siân Richards + Fflur Dafydd a'r Band. Braf oedd gweld cymaint yn bresennol.
Pwrpas y noson oedd dathlu degawd o gigs Cymraeg yn ardal Cwmtawe. Roedd e'n hyfryd cael Fflur Dafydd nol i'r dafarn gan mae hi oedd wedi chwarae'r gig gyntaf erioed nol yn 2008.
