Ar nos Fawrth (16/4/19) cynhaliwyd Sesiwn Werin Gymreig #seshfach yn Nhafarn y Gwachel ym Mhontardawe. Braf oedd gweld cymaint o gerddorion newydd yn cymryd rhan, yn ogystal â nifer o bobl eraill a oedd wedi dod i ganu ac i fwynhau mewn awyrgylch Gymreig. Edrychwn ymlaen at y Sesh Fach nesaf.
“Diolch am drefnu’r #seshfach neithiwr. Roedd y sesiwn yn hwyl iawn”.