Ar ddydd Gwener, Gorffennaf 12, wnaeth 600 o blant mynychu Gig flynyddol Tanio'r Ddraig yn Ystalyfera.
Bu perfformiadau fyw gan Mr Phormula, Bronwen Lewis a Candelas, yn ogystal a chyfle i fyfyrwyr Ystalyfera perfformio ar lwyfan am y tro cyntaf! Cawsom perfformiadau arbennig gan Molly Thomas, ar ol iddi ennill cystadleuaeth Y-Ffactor ar Ddydd Miwsig Cymru, ac hefyd gan band newydd sbon o'r enw Estylafyra.
Wnaeth y plant mwynhau diwrnod o ddawnsio, canu a rapio i ddathlu diwedd flwyddyn ysgol, ac i gwrdd a'u cyd-ddisgyblion o Medi ymlaen.
Cynhaliwyd Gig Tanio'r Ddraig am y tro cyntaf nol yn 2014, a phob blwyddyn ers hynny mae'r Fenter wedi cydweithio gydag Ysgol Ystalyfera, a'r Siarter Iaith er mwyn cynnal digwyddiad gyda'r ffocws o ddangos i blant blwyddyn 6 bod yna byd cerddorol Cymraeg cwl i'w weld.
Er mwyn paratoi, bu'r plant yn brysur yn dysgu geiriau i ganeuon y bandiau, ac hefyd i'r gan a ysgrifennwyd gan Mei Gwynedd yn 2017 yn arbennig ar gyfer y Gig. Cawsom y cyfle i ganu gyda'n gilydd i agor y gig ac i feddwl am ba mor bwysig ydyw i ddefnyddio'r Gymraeg tu allan i'r ystafell dosbarth.
Yn ogystal, cawsom cystadleuaeth i ddylunio crys-t yn yr wythnosau yn arwain lan at y gig, gyda plant o bob ysgol yn cael y cyfle i dylunio rhywbeth oedd yn dangos bod y gig yn dathlu siarad Cymraeg, a'r Siarter Iaith. Daeth yr ennillydd o ysgol Bontardawe, ac wnaeth bron pob plentyn wisgo'r crys-t i'r gig, a oedd yn cynnwys enwau'r bandiau a cymeriadau'r Siarter Iaith - Seren a Sbarc!
Wnaeth Seren a Sbarc mynychu'r gig hefyd am ychydig o ganeuon, roedd y plant wrth eu bodd gyda'r cymeriadau enwog!
Mae'r Fenter yn edrych ymlaen yn barod at flwyddyn nesaf - pwy bydd yn perfformio tybed?






