Cynhaliwyd Cwis blynyddol y Fenter dros adeg y Nadolig yng nghlwb Rygbi Alltwen, o dan arweiniad yr ysgrifennwr enwog Alun Wyn Bevan. Braf oedd gweld cymaint yn mwynhau cystadlu mewn awyrgylch hwyl Gymreig. Llongyfarchiadau mawr i'r tîm buddugol a diolch i bawb a oedd wedi mynychu i gefnogi'r digwyddiad, yn enwedig Mr. Bevan am gynnal y cwis mor effeithiol. Edrychwn ymlaen at flwyddyn nesaf.

