Blwyddyn yma mae Dydd Miwsig Cymru ar ddydd Gwener 7fed o Chwefror.
Beth yw Dydd Miwsig Cymru?
P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg.
Mae gan y fenter digwyddiadau trwy'r wythnos i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o'r diwrnod - cadwch lygaid ar ein tudalennau cymdeithasol i gadw lan gyda phob digwyddiad!
#DyddMiwsigCymru #Cymraeg #dathlu #joio #canu #dawnsio

