๐๐๐๐ด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟโ๐๐ฉโ๐ณย
I ble aeth mis Medi?
Yn ystod y mis gwnaethom ni parhau gyda'n digwyddiadau/adnoddau wythnosol yn cynnwys rhestrau chwarae (Dilynwch Spotify MICNPT ), heriau, crefftau, helfa trysor, chwileiriau, rysaits a mwy (Popeth ar gael ymaย ย Adnoddau MICNPT! Hefyd cynhaliwyd ein bore coffi am 10am pob bore dydd Iau ar zoom. Sesiwn gwych i bobl yr ardal i ddod i ddefnyddio ac ymarfer eu iaith Cymraeg anffurfiol! Daeth y sesiynau yma i ben ar ddiwedd y mis OND cadwch lygaid ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am gyhoeddiad am sesiwn newydd ym mis Hydref!ย โ
Diolch i bawb am wylio ein Amser Stori ar ddechrau'r mis. Ydych chi'n hoffi chwarae cuddio fel Sali Mali a'i ffrindiau?ย
ย |ย ๐ ย Amser Stori - Pawb yn Cuddioย ย
Dathlwyd dydd Owain Glyndลตr a diwrnod Waldo yn ystod mis Medi. Dau ffigwr allweddol yn hanes wlad Cymru. Rhannwyd eu hanes ac adnoddau i godi ymwybyddiaeth o'r arwyr yma ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol - Ewch i weld, a chofiwch i rannu!ย ย
ย
ย
Yn ystod y mis roedd Caffi Cymraeg Gwaun Cae Gurwen yn cwrdd ar zoom ar fore dydd Mawrth! Cyfle i ddefnyddio a gwella eich iaith Gymraeg wrth sgwrsio'n anffurfiol. Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno ewch i dudalen Facebookย LLyfrgell GCGย ๐
Cawsom 2 sesiwn Cylch Canu ar Zoom ym mis Medi. Diolch i bawb am ymuno รข ni am sesiwn canu a stori Cymraeg!ย ย Ewch i dudalen Facebookย Cylch Canuย i gadw lan gyda dyddiadau'r sesiynau nesaf!
Ydych chi wedi cael cyfle i wylio ein cyfres 'Clonc a Chan'ย eto? Cyfle arbennig i ddod i nabod ein sรชr lleol trwy sgwrsio a chwarae gemau dwl. Gallwch ddal lan gyda'r gyfres arย ein tudalen Youtubeย
Ail ddechreuoedd grลตp cerdded LingdiLong yn ystod gwyliau'r haf. Aeth y grลตp ar deithiau cerdded wythnosol o gwmpas Castell-nedd Port Talbot ac Aberatwe.ย
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth yn ystod mis Medi! Edrychwn ymlaen at barhau i greu a rhannu stwff digidol gyda chi yn ystod mis Hydref! Plรฎs cysylltwch รข ni os oes unrhyw syniadau gyda chi am bethau hoffwch weld yn digwydd!
Cofiwch i hoffi/dilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gadw lan gyda phob peth rydym yn wneud! DIOLCH!ย ๐
#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg






