,

๐Ÿ‚๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟ๐Ÿƒ Hydref ๐Ÿƒ๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟ๐Ÿ‚

๐Ÿ‚๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟ๐Ÿƒ Hydref ๐Ÿƒ๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟ๐Ÿ‚

๐Ÿ‚๐Ÿ‘€๐Ÿ˜„๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟโ˜•๐Ÿƒ๐Ÿ‘ฉโ€๐Ÿณ๐Ÿคฉ๐ŸŽถย ๐Ÿ‘จโ€๐Ÿ‘จโ€๐Ÿ‘งโ€๐Ÿ‘งโ“

Rydym wedi cyrraedd diwedd mis arall yn ein calendar!?!

Yn ystod mis Hydref cynhaliwyd/rhannwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau/adnoddau wythnosol yn cynnwys rhestrau chwarae (Dilynwch Spotify MICNPTย ), heriau, crefftau, ryseitiau, chwileiriau a mwy (Popeth ar gael ymaย ๐Ÿ‘‰ย Adnoddau MICNPT! Ar ddiwrnod cyntaf y mis cynhaliwyd ein bore coffi wythnosol olaf ar zoom. Diolch i bawb am ddod, cyfle i ddefnyddio ac ymarfer eu iaith Cymraeg anffurfiol! Cadwch lygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth am sesiwn newydd sy'n dod yn fuan.ย โ˜•

Dathlwyd diwrnod Shwmae Su' mae ar y 15fed o Hydref. Cawsom 2 sesiwn sgwrsio ar zoom - diolch i bawb am ddod! Hyfryd i weld wynebau hen a newydd. Rhannwyd llawer o weithgareddau a chrefftau arย  ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnos - Ewch i weld, a chofiwch i rannu!ย  ย  ย  ย  ย Diolch i bawb am fynychuย Cylch Canu digidol unwaith eto hefyd, roedd hi'n wych i ganu caneuon Cymraeg i ddathlu diwrnod Shwmae Su'mae!ย Ewch i dudalen Facebookย Cylch Canuย i gadw lan gyda dyddiadau'r sesiynau nesaf!ย ๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟย ๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟย ๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟย 

Roedd Caffi Cymraeg Gwaun Cae Gurwen wedi parhau i gwrdd ar zoom pob bore dydd Mawrth! Cyfle i ddefnyddio a gwella eich iaith Gymraeg wrth sgwrsio'n anffurfiol. Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno ewch i dudalen Facebookย LLyfrgell GCGย ๐Ÿ˜„

Ydych chi wedi cael cyfle i wylio ein cyfres 'Clonc a Chan'ย  eto? Cyfle arbennig i ddod i nabod ein sรชr lleol trwy sgwrsio a chwarae gemau dwl. Gallwch ddal lan gyda'r gyfres arย ein tudalen Youtubeย ๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟ

Dewiswyd themรขu Hydrefol yn ystod y mis fel dail a'r tywydd, ond ein hoff thema oedd Calan Gaeaf. Yn wythnos olaf y mis rhannwyd llwyth o weithgareddau/adnoddau i chi ddefnyddio a mwynhau, am ddim! Adnoddau yn cynnwys teisennau pry cop a phwmpen, crefft ysbryd, taflenni lliwio a gemau Calan Gaeaf - rhywbeth i bawb! Diolch i bawb am rannu lluniau o'u gwisgoedd Calan Gaeaf gyda ni hefyd! Roedd rhai o'r gwisgoedd yn frawychus iawn!!ย ๐Ÿ‘ป๐ŸŽƒ๐Ÿ‘ฟ

Diolch eto i chi gyd am eich cefnogaeth yn ystod mis Hydref! Edrychwn ymlaen at barhau i greu a rhannu stwff digidol gyda chi yn ystod mis Tachwedd! Plรฎs cysylltwch รข ni os oes unrhyw syniadau gyda chi am bethau hoffwch weld yn digwydd!

Cofiwch i hoffi/dilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gadw lan gyda phob peth rydym yn wneud! DIOLCH!ย ๐ŸŒˆ

๐Ÿ‘‡๐Ÿ‘‡๐Ÿ‘‡

Dilynwch ni ar Facebook!

Hoffwch ni ar Twitter!

Dilynwch ni ar Instagram!

#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg

ย ย ย ย 

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *