,

Eisteddfod rithiol YGYBD!

Eisteddfod rithiol YGYBD!

Roedd Eisteddfod gyntaf rithiol Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur yn brofiad gwahanol a gwych. Roedd y ddwy ysgol wedi ymdopi yn anhygoel o dda gyda sefyllfa'r pandemig, i sicrhau fod y disgyblion yn cael y cyfle i barhau i gymryd rhan yn eu Heisteddfod ysgol a ddiolchgar tu hwnt oedden ni i fod yn rhan o hwn. Cafodd y disgyblion y cyfle i gymryd rhan yn ystod eang o gystadlaethau, yn cynnwys rhai traddodiadol fel llefaru a pherfformiadau a hefyd rhai newydd yn cynnwys lip sync, thalent od a hyd yn oed ‘keepy upies’ gyda phapur toilet! Cawsom lawer o gefnogaeth gan enwogion Cymraeg o fyd teledu a cherddoriaeth a chyn disgyblion - roedd hyn wedi ysbrydoli'r disgyblion i ymdrechu yng nghystadlaethau’r Eisteddfod, roeddwn nhw wrth eu bodd!   Er bod y flwyddyn yma bach yn wahanol (am resymau amlwg) roedd brwdfrydedd a chyffro'r disgyblion mor arbennig ag erioed -mae’n amlwg fod disgyblion YGYBD yn ymfalchïo yn eu Heisteddfod ac roedd yn gyfle gwych i bawb rannu eu talentau!

 

Da iawn i lys Gwenllian am eu buddugoliaeth ar y ddau safle! 

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *