Mae Dydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod pwysig iawn yng nghalendr y Cymru, ac fe aethom ni ati i ddathlu gydag wythnos lawn o ddigwyddiadau at ddant pawb!
Fe ddechreuodd ein hwythnos gyda Thiwtorial Coginio gyda Mr Henry, wrth i ni ddysgu sut i wneud picau ar y maen. Dyma ddechrau gwych i’r wythnos, gyda dros 1700 o bobl wedi mwynhau gwylio’r tiwtorial a dysgu sut i goginio’r picau ar y maen perffaith!
Ar Fawrth y 1af rhannwyd ein Gorymdaith Rithiol gyda phawb. Fideo arbennig yn edrych yn ôl ar Orymdeithiau’r gorffennol ac yn falch o weld fod pawb yn parhau i ddathlu eleni yn eu cartrefi. Diolch i bawb am ddanfon clipiau fideo a lluniau i ni.
Cliciwch yma i wylio’r fideo;
Y Sesh Sŵn oedd digwyddiad nos Fawrth. Noson arbennig i bobl gael cyfle i ymarfer chwarae, dysgu caneuon ac alawon newydd a chael cyfle i glywed rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd Cymru yn cael ei berfformio gan rhai o holion wyth y Sesh Sŵn. Roedd pawb wedi mwynhau dod ynghyd unwaith eto a chael cyfle i werthfawrogi cerddoriaeth traddodiadol Cymru.
Yn ystod yr wythnos cynhaliwyd sawl sesiwn ganu gwahanol, un gyda PlanTawe, gyda dros 500 o blant yn ymuno i fwynhau’r canu, sesiwn Cylch Canu, a sesiwn ganu byw dros Facebook. Roedd pob un yn llwyddiannus dros ben a’r plant wedi mwynhau canu rhai o’i hoff ganeuon a dysgu rhai o ganeuon Dewi Sant.
Mi fuodd Siani Sionc yn diddanu’r plant ar ddydd Sadwrn ar ein tudalen Facebook. Sesiwn llawn hwyl a sbri i’r plant a phawb yn mwynhau cyd-ganu gyda Siani Sionc a’i ffrindiau. Rydym yn edrych ymlaen i groesawi Siani Sionc yn ôl cyn hir!
Daeth ein hwythnos o ddathliadau i ben gyda Noson Dafarn Rithiol. Noson hwyliog iawn gyda chwis, canlyniadau’r Cystadlaethau Crefft a Minecraft yn cael ei gyhoeddi a pherfformiadau byw gan Ken Thomas, Jayne Williams a Lisa Pedrick. Diolch yn fawr i’r tri am berfformio i ni. Roedd pawb wedi mwynhau mas draw ac yn mwynhau cyd-ganu rhai o ganeuon mwyaf arbennig Cymru. A braf iawn oedd cael cwmni Morgan o America. Roedd wedi ymuno i glywed yr iaith Gymraeg a’r cerddoriaeth arbennig sydd gyda ni yma. A diolch yn fawr i Morgan am berfformio rhai o’i ganeuon arbennig i ni hefyd.
Gydol yr wythnos mi fuodd yna dair Cystadleuaeth. Cystadlaethau Crefft a Minecraft i’r plant a Chystadleuaeth ysgrifennu Limrig i’r bobl ifanc ac oedolion.
Diolch yn fawr i bawb oedd wedi cystadlu, roedd eich gwaith yn arbennig o dda!
Dyma sut welodd y beirniad hi;
Diolch yn fawr i bawb a fynychodd ein digwyddiadau, ac rydym yn edrych ymlaen i weld chi cyn hir!
