,

Mis Mawrth! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🌻

Mis Mawrth! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🌻

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🎻🏉👀😄☕🍃👩‍🍳🤩🎶 👨‍👨‍👧‍👧❓

Yn ystod mis Mawrth cynhaliwyd/rhannwyd amrywiaeth o ddigwyddiadau a adnoddau wythnosol yn cynnwys rhestrau chwarae (Dilynwch Spotify MICNPT ), heriau, crefftau, ryseitiau, chwileiriau a mwy... Popeth ar gael yma 👉 Adnoddau MICNPT! Roedd rhai o'r themâu yn cynnwys Dydd Gŵyl Dewi, Diwrnod y Llyfr Gwyddoniaeth, Dydd Sant Padrig a'r Gwanwyn!

Cawsom wythnos o ddathliadau am ddydd Gŵyl Dewi - Roedd hi'n wythnos fendigedig! Gallwch ddarllen mwy yma 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🌻

Yn ystod y mis roedd sesh sŵn digidol, ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe. DIOLCH i bawb am ddod i'r sesiwn! Cyfle i bawb i ddod i fwynhau wrth chwarae neu wrando ar gerddoriaeth gwerin! Mae'n sesiwn rydyn yn edrych ymlaen at bob mis! 🎻 Bydd ein sesiwn nesaf ar nos Fawrth yr 13eg o Ebrill am 7yh  🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿  Cliciwch yma i ymuno.

Ar ddechrau'r mis roedd PlanTawe digidol y Gwanwyn ar y cyd gyda Chymraeg i Blant CNPT/Abertawe a Menter Iaith Abertawe. Tri diwrnod o weithgareddau yn cynnwys fideo coginio, crefftau, helfa drysor a mwy. Gallwch ddarganfod popeth ar dudalen Facebook PlanTawe. I orffen y digwyddiad roedd sesiwn canu byw i deuluoedd/ysgolion y ddwy sir. Diolch i bawb am ddod!  🤩

Ar ddiwedd mis Mawrth dechreuodd ein digwyddiadau Pasg yn dechrau gyda sesiwn coginio BYW dros Zoom gyda Mr Henry - Am sesiwn! Roedd wyau Pasg pawb yn edrych yn flasus iawn!!😋😍Dilynwch Instagram Mr Henry yma. Y diwrnod wedyn roedd sesiwn Cwis ar y cyd gyda Llyfrgell Gwaun Cae Gurwen. Diolch i bawb am fynychu'r sesiwn! Roedd hi'n gyfle arbennig i bawb i gymdeithasu ac i fwynhau yn y Gymraeg yn ystod gwyliau'r Pasg! ❓

Roedd Caffi Cymraeg Gwaun Cae Gurwen wedi parhau i gwrdd ar zoom pob bore dydd Mawrth! Cyfle i ddefnyddio a gwella eich iaith Gymraeg wrth sgwrsio'n anffurfiol. Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno ewch i dudalen Facebook LLyfrgell GCG 😄

Cawsom sesiwn Cylch Canu ar Zoom yn ystod y mis. Diolch i bawb am ymuno â ni am sesiwn canu a stori Cymraeg! 🙂 Ewch i dudalen Facebook Cylch Canu am fwy o wybodaeth!

Ydych chi wedi cael cyfle i wylio ein cyfres 'Clonc a Chan'  eto? Cyfle arbennig i ddod i nabod ein sêr lleol trwy sgwrsio a chwarae gemau dwl. Gallwch ddal lan gyda'r gyfres ar ein tudalen Youtube 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Diolch eto i chi gyd am eich cefnogaeth yn ystod mis Mawrth! Plîs cysylltwch â ni os oes unrhyw syniadau gyda chi ar bethau hoffwch weld yn digwydd!

Edrychwn ymlaen at rannu mwy o adnoddau a gweithgareddau gyda chi yn ystod mis Ebrill!

Cofiwch i hoffi/ddilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol! DIOLCH! 🌈

👇👇👇

Dilynwch ni ar Facebook!

Hoffwch ni ar Twitter!

Dilynwch ni ar Instagram!

#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg

    

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *