,

Ebrill 2021! 🌞

Ebrill 2021! 🌞

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🎻🏉👀😄☕🍃👩‍🍳🤩🎶 👨‍👨‍👧‍👧❓

Dyma ein hail fis Ebrill yn ystod y cyfnod clo - Am flwyddyn! Cawsom fis prysur o rannu adnoddau a chynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau dros wyliau'r Pasg a'r wythnosau ar ôl.

Dilynwch Spotify MICNPT

Adnoddau MICNPT 

Yn ystod gwyliau'r Pasg roedd nifer o ddigwyddiadau byw llawn hwyl a sbri i blant a phobl ifanc yn cynnwys sesiwn coginio gyda Mr Henry, Cwis, Sesiwn gyda Halibalw a Sesiwn Gemau. DIOLCH i bawb am fynychu! Edrychwn ymlaen at sesiynau tebyg yn y dyfodol agos! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🤩

Ar ddechrau'r mis lansiwyd clwb misol newydd o'r enw 'Y Ditectifs.' Cyfle i ddysgu fwy am rai o ddigwyddiadau mawr Gymru, edrych ar gestyll arbennig, ymweld gydag amgueddfeydd, gwneud crefftau, coginio a mynd ar deithiau cerdded. Cliciwch yma i ddarganfod mwy. 🔍

Ar yr 13eg roedd sesh sŵn digidol, ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe. DIOLCH i bawb am ddod i'r sesiwn! Cyfle i bawb i ddod i fwynhau wrth chwarae neu wrando ar gerddoriaeth gwerin! Mae'n sesiwn rydyn yn edrych ymlaen at bob mis! 🎻 Bydd ein sesiwn nesaf ar nos Fawrth yr 11eg o Fai am 7yh  🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 . Cysylltwch i dderbyn y côd zoom neu am fwy o wybodaeth:  📧 cymuned@micnpt.cymru

Dechreuodd Amser Canu, ar y cyd gyda Llyfrgell Gwaun Cae Gurwen yn ystod y mis hefyd. Sesiwn o ganu a storiâu Cymraeg i blant 0 - 5 oed ar ddydd Iau am 10yb ar Zoom (bob yn ail wythnos). Ymunwch â ni yn ein sesiwn nesaf ar 13eg o Fai. Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno ewch i dudalen Facebook LLyfrgell GCG 🤩

Roedd Caffi Cymraeg Gwaun Cae Gurwen wedi parhau i gwrdd ar zoom pob bore dydd Mawrth! Cyfle i ddefnyddio a gwella eich iaith Gymraeg wrth sgwrsio'n anffurfiol. Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno ewch i dudalen Facebook LLyfrgell GCG 😄

Ydych chi wedi cael cyfle i wylio ein cyfres 'Clonc a Chan'  eto? Cyfle arbennig i ddod i nabod ein sêr lleol trwy sgwrsio a chwarae gemau dwl. Gallwch ddal lan gyda'r gyfres ar ein tudalen Youtube 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Diolch eto i chi gyd am eich cefnogaeth yn ystod mis Ebrill! Plîs cysylltwch â ni os oes unrhyw syniadau gyda chi ar bethau hoffwch weld yn digwydd!

Edrychwn ymlaen at rannu mwy o adnoddau a gweithgareddau gyda chi yn ystod mis Mai!

Cofiwch i hoffi/ddilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol! DIOLCH! 🌈

👇👇👇

Dilynwch ni ar Facebook!

Hoffwch ni ar Twitter!

Dilynwch ni ar Instagram!

#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg

 

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *