Newyddion Cyffrous!

Newyddion Cyffrous!

Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot wedi llwyddo i sicrhau Marc Elusen Ddibynadwy (TCM) Lefel 1 yn ddiweddar gan gydnabod y gwaith rhagorol maen nhw’n gwneud fel mudiad trydydd sector yng Nghymru.

Dywed Dyfrig Harris, Cadeirydd Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot;

“Rydym yn falch iawn i dderbyn y Marc Elusen Ddibynadwy am drefniadau llywodraethu a rheoli Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot. Llongyfarchiadau i Bethan Crosby fel Prif Swyddog a holl staff y Fenter am eu gwaith i ddod a’r llwyddiant yma ar ôl cyfnod hir o baratoi. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn oherwydd Coronofeirws ac mae newyddion da fel hyn yn codi calon a rhoi’r hwb sydd angen i baratoi am amseroedd gwell.”

Mae TCM yn rhan o Gyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO), a dyma’r unig safon ansawdd yn y Deyrnas Unedig sy’n helpu mudiadau trydydd sector i weithredu’n fwy effeithiol ac effeithlon. Aseswyd Menter Iaith CNPT yn erbyn yr 11 safon o arferion effeithiol gan NCVO, gan gynnwys llywodraethu, arwain a rheoli, rheoli staff a gwirfoddolwyr a rheoli arian, ac fe brofodd ei fod yn cyrraedd pob un o’r safonau hyn.

Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn fudiad lleol sy’n cefnogi unigolion, mudiadau, ysgolion a’r gymuned i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’r Fenter yn cynnal amryw o weithgareddau a digwyddiadau ac yn rhannu gwybodaeth am fanteision addysg, neu ddysgu’r Gymraeg. Yn ystod pandemig Covid-19 mae’r Fenter wedi llwyddo i addasu’n gyflym i gynnig gweithgareddau, adnoddau a gwybodaeth mewn ffordd rithiol. Mae’r Fenter yn gweithio’n agos iawn gyda nifer o bartneriaid o fewn yr ardal, ac yn falch i allu dangos iddynt ein bod ni’n gweithredu i’r safonau uchaf.

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *