Rydym ni wedi cael mis prysur unwaith eto ym mis Medi. Ein thema yn ystod y mis oedd 'Caredigrwydd.' 💛
Ail ddechreuodd Cylch Canu yn Ysgol y Cribarth, Abercraf. Mae Cylch Canu yn gylch ti a fi ac yn gyfle i rieni â phlant bach i chwarae, gwneud crefftau a chanu yn Gymraeg. Ewch i Facebook Cylch Canu i ddarganfod mwy! 🤩
Fe rannwyd rhestr chwarae'r mis i gyd fynd gyda'n thema 'Caredigrwydd.' Gallwch wrando yma. Aeth cân yr wythnos allan ar bob dydd Sul y mis hefyd, ewch i'n cyfryngau cymdeithasol i glywed rhain. Oes gennych chi hoff gân #cymraeg? 🎶
Yn ystod y mis fe rannwyd dwy bennod o gyfres Fy Ardal a Fi ar ein sianel YouTube a chyfryngau cymdeithasol. Gallwch wrando ar sgyrsiau difyr gyda Lisa Pedrick a chriw Grŵp cerdded Ling-di-long. 🏴
Cawsom Sesh Sŵn llwyddiannus unwaith eto gyda phawb yn mwynhau chwarae a gwrando ar gerddoriaeth gwerin. Diolch i bawb am ddod - Bydd ein sesiwn nesaf ar yr 12fed o Hydref. Rydym ni'n croesawu pobl newydd i ymuno â ni - Cysylltwch â cymuned@micnpt.cymru am fwy o wybodaeth. 🎻
Yng nghanol y mis fe rannwyd tiwtorial arbennig arall gan Mr Henry. Os ydych chi'n hoffi pobi ac yn hoff iawn o deisennau, dyma fideo i chi! Cliciwch yma i ail wylio'r fideo. Rhannwch luniau o'ch danteithion gyda ni! 👨🍳🧁
Cynhaliwyd sesiynau canu yn Y Lolfa, Llyfrgell Gwaun Cae Gurwen a Llyfrgell Port Talbot i blant cyn oedran ysgol yn ystod y mis. Roedd hi'n hyfryd i fod nôl yn gwneud sesiynau wyneb yn wyneb. Diolch i bawb am fynychu - Cadwch lygaid ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld pryd fydd sesiynau tebyg yn digwydd dros y mis nesaf. Wnaethom ni greu taflen o ganeuon Cymraeg i blant newydd i'r sesiynau hefyd. Cliciwch yma os hoffech gopi. ⭐️
Ar ddiwedd y mis cawsom Fore Coffi Macmillan llwyddiannus iawn! Wnaethom ni godi dros £170! Diolch i bawb am eu cyfraniad. Gallwch ddarllen mwy yma. ☕️
Edrychwn ymlaen at sesiynau / digwyddiadau cyffrous iawn ym mis Hydref. Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol NAWR i weld beth sy'n dod... 👇
#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg
**Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gadw lan gyda phob peth Cymraeg sy'n digwydd yn sir CNPT: Cliciwch yma**




