Cafwyd wythnos arbennig yn dathlu Diwrnod Shwmae Su’mae 2021 ar draws Castell-nedd Port Talbot!
Mae Diwrnod Shwmae Su’mae yn ddiwrnod i annog y syniad o ddechrau pob sgwrs gyda Shwmae neu Su’mae. Mae’r diwrnod i ddangos fod y Gymraeg yn perthyn i bawb - o ddysgwyr i siaradwyr rhugl, a phawb ar y daith Gymraeg!
Mae’r Diwrnod yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ar y 15fed o Hydref.
Darllenwch fwy o wybodaeth yma
Dechreuwyd ein dathliadau gyda Siani Sionc yn dawnsio a chanu gyda dros 60 o deuluoedd yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe. Roedd pawb wedi mwynhau mas draw ac yn enwedig ymweliad annisgwyl gan Magi Ann.

Braf oedd croesawi nifer i’n Sesh Sŵn Shwmae ar y 12fed o Hydref. Roedd pawb wedi mwynhau noson arbennig yn chwarae ac yn edrych ar ganeuon o dan y thema ‘Breuddwydion a Hwiangerddi’. Rydym yn ddiolchgar iawn i Eiddwen am arwain ein sesiynau misol ac yn edrych ymlaen at y Sesh Sŵn nesaf ar y 9fed o Dachwedd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â cymuned@micnpt.cymru.
Ymunodd Magi Ann yn ein dathliadau Shwmae drwy ymweld â dros 180 o blant yr ardal a braf oedd clywed storiau a chaneuon amrywiol gan y plant. Mae gennym nifer o ymweliadau Magi Ann i ddod.

Roedd yn wych i weld yr Ysgolion Uwchradd yn ymuno yn y dathlu drwy gwahodd ni i gynnal sesiynau gyda’r disgyblion i ddathlu’r diwrnod. Yn ystod yr wythnos fe wnaethom ni ymweld â 200 o blant ar draws y Sir, yn gwerthfawrogi’r Gymraeg, trafodaethau diddorol a mwynhau cwisiau a gweithgareddau hwyliog.
Ar ddiwrnod Shwmae Su’mae braf oedd croesawi trigolion yr ardal i Ganolfan Celfyddydau Pontardawe i fwynhau paned a chlonc gyda’i gilydd ac i ddathlu’r diwrnod arbennig yma.

Ar ddiwrnod Shwmae Su'mae rhannwyd fideo arbennig o bobl ar draws y Sir yn dweud 'Shwmae'. Gwyliwch yma
Rydym yn edrych ymlaen at ddiwrnod Shwmae Su’mae 2022 yn barod!
