Hydref! ๐Ÿ‚

Hydref! ๐Ÿ‚

Cawsom fis hynod o brysur ym mis Hydref. Ein themรขu oedd Hydref, Diwrnod Shwmae Su' mae a Chalan Gaeaf. ๐ŸŽƒ๐Ÿด๓ ง๓ ข๓ ท๓ ฌ๓ ณ๓ ฟ

Roedd criw Cylch Canu Ysgol y Cribarth, Abercraf wedi parhau i gwrdd pob bore dydd Mercher yn ystod tymor ysgol. Mae Cylch Canu yn gylch ti a fi ac yn gyfle i rieni รข phlant bach i chwarae, gwneud crefftau a chanu yn Gymraeg. Ewch i Facebook Cylch Canu i ddarganfod mwy! 

Aeth ein swyddog datblygu mewn i dri gylch chwarae'r sir i gynnal sesiynau Cymraeg i helpu staff a'r plant i glywed, defnyddio a dysgu Cymraeg yn ystod eu sesiynau. Cawsom lot o hwyl yn gwneud posteri Shwmae Su' mae a chanu gyda Jac y Do.

Fe rannwyd rhestr chwarae'r mis am ddiwrnod Shwmae Su'mae.' Gallwch wrando yma. Oes gennych chi hoff gรขn #cymraeg? ๐ŸŽถ

Roedd llawer o bethau ymlaen am ddiwrnod Shwmae Su' mae - Gallwch ddarllen mwy yma. Yn ogystal i hwn wnaethom ni sesiynau ymwybyddiaeth iaith gyda blynyddoedd 3 i 6 yn Ysgol Gwaun Cae Gurwen a sesiynau canu yn Llyfrgell Port Talbot a Gwaun Cae Gurwen. Roedd yna rywbeth i bawb yn ystod yr wythnos. ๐Ÿ˜ƒ

Cawsom Sesh Sลตn llwyddiannus unwaith eto gyda phawb yn mwynhau chwarae a gwrando ar gerddoriaeth gwerin. Diolch i bawb am ddod - Bydd ein sesiwn nesaf ar y 9fed o Dachwedd. Rydym ni'n croesawu pobl newydd i ymuno รข ni - Cysylltwch รข cymuned@micnpt.cymru am fwy o wybodaeth.  ๐ŸŽป

Ar ddiwedd y mis roedd llawer o bethau Calan gaeaf ymlaen yn ystod hanner tymor. Roedd helfa drysor wedi'i drefnu yn ardal Gwaun Cae Gurwen ar y cyd gyda'r Lolfa, Llyfrgell GCG. Cyfle i deuluoedd i fwynhau helfa drysor gyda'r teulu yn ystod y gwyliau. Cawsom sesiwn grefftau Calan Gaeaf yn Llyfrgell Ystradgynlais. Daeth dros 15 teulu i greu addurniadau Calan Gaeaf a chymdeithasu yn Gymraeg. Ar ddiwedd wythnos hanner daeth dros 30 o deuluoedd i fwynhau Bore o Hwyl yng Ngahnolfan Celfyddydau ym Mhontardawe. Hefyd cynhaliwyd cystadleuaeth cerfio pwmpen i oed cynradd, uwchradd a'r gymuned. Diolch i bawb am gymryd rhan a llongyfarchiadau i'n henillwyr. Diolch i bawb am ddod i bob un o'n sesiynau. Rydym yn edrych ymlaen at sesiynau tebyg am y Nadolig! ๐Ÿ‘ป๐ŸŽƒ

Edrychwn ymlaen at sesiynau / digwyddiadau cyffrous iawn ym mis Tachwedd. Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol NAWR i weld beth sy'n dod... 

Dilynwch ni ar Facebook!

Hoffwch ni ar Twitter!

Dilynwch ni ar Instagram!

Dilynwch ni ar Spotify!

#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg

**Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gadw lan gyda phob peth Cymraeg sy'n digwydd yn sir CNPT: Cliciwch yma**

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *