Mae Cwis Dim Clem yn brosiect cenedlaethol gan Mentrau Iaith Cymru sydd wedi cael ei gynnal ers sawl blwyddyn bellach. Llynedd oedd y flwyddyn fwyaf erioed gyda dros 3000 o blant wedi cystadlu ar draws Cymru gyfan!
Mae’r Cwis yma yn gyfle gwych i blant blynyddoedd 6 i fwynhau gweithgaredd hwyliog drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a chael cyfle i ddysgu fwy am Gymru, ei hanes, diwylliant ac hefyd mwynhau rowndiau llawn hwyl a sbri megis lluniau, siocled, a logos!
Rydym ni fel Menter wedi bod yn ran o’r prosiect yma ers sawl blwyddyn bellach a braf yw gweld ein ysgolion Cymraeg yn manteisio ar y cyfle o flwyddyn i flwyddyn! Eleni mae’r 10 ysgol wedi neidio ar y cyfle unwaith yn rhagor ac rydym yn falch i ddweud bod dros 200 o blant wedi cymryd rhan eleni.
Eleni, cafon ni syniad o gynnig Cwis Dim Clem i ysgolion cyfrwng Saesneg y Sir yn ogystal. Roeddem yn teimlo fyddai yn gyfle euraidd i’r plant fwynhau gweithgaredd drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg ac hefyd cael y cyfle i ddysgu fwy am Gymru a hynny mewn modd ysgafn, llawn hwyl a sbri.
Rydym yn falch iawn i ddweud fod 16 o ysgolion cyfrwng Saesneg y Sir wedi cymryd mantais o’r cyfle arbennig yma ac mae dros 500 o blant wedi cymryd rhan yn y Cwis eleni. Arbennig o dda!
Mae wedi bod yn hyfryd i greu cysylltiadau gyda’r ysgolion yma a chynnig y Cwis Dim Clem iddynt eleni. Mae’r ymateb o’r ysgolion wedi bod yn arbennig o dda. Dyma rhai sylwadau;
“Thank you so much, it was lovely. The children thoroughly enjoyed, and it was nice for them to see and hear someone else speaking Welsh for a change.”
“It’s a great opportunity for our kids to compete against other schools, thanks for organising!”
“Diolch yn fawr am y Cwis Dim Clem ddoe, wnaeth y plant mwynhau!”
“Diolch yn fawr - the children really enjoyed the cwis.”
Yn dilyn creu’r cysylltiadau yma gyda’r ysgolion cyfrwng Saesneg, mae wedi bod yn braf i gynnig gweithgareddau ar gyfer blynyddoedd arall yn yr ysgol yn ogystal drwy gynnal sesiynau hwyl, gemau, cwisiau a hynny i gyd drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Rydym hefyd yn falch iawn i allu rhannu ein adnoddau arbennig gyda’r ysgolion a chynnig cymorth iddynt gyda diwrnodau arbennig e.e. Diwrnod Shwmae Su’mae, Nadolig, Santes Dwynwen.
Edrychwn ymlaen i barhau ein cysylltiadau yn y flwyddyn newydd, ac edrychwn ymlaen i gynnal Rownd 2 Cwis Dim Clem gydag ysgolion ar draws y Sir!
