,

Rhagfyr πŸŽ„

Rhagfyr πŸŽ„

Cawsom fis Rhagfyr arbennig! Mis llawn hwyl a sbri i orffen 2021! πŸ˜ƒ Cafodd llawer o bethau Nadoligaidd ei rhannu ar ein cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys Heriau, Ryseitiau, Crefftau a Rhestrau chwarae. Welsoch chi ein calendr Adfent hefyd?

Daeth dros 60 o deuluoedd i'n sesiynau Nadoligaidd yn ystod y mis. Cawsom parti Nadolig yng Ngylch Canu Abercraf, Amser Canu Gwaun Cae Gurwen a Pharti Nadolig PlanTawe. Diolch i bawb am ymuno Γ’ ni am grefftau, chwarae a chanu Cymraeg! β­οΈπŸŽ…

Rhannodd 'Cegin Mr Henry' 3 thip arall gyda ni yn ystod y mis - Fideos o'i Dop Tips coginio dros y Nadolig! Ewch i YouTube y Fenter i weld y fideos! πŸ§‘β€πŸ³πŸŽ„

Cawsom Sesh SΕ΅n llwyddiannus unwaith eto ym mis Rhagfyr. Diolch i bawb am ddod - Bydd ein sesiwn nesaf ar y 11eg o Ionawr. Edrych am rywbeth newydd i ymuno Γ’ yn y flwyddyn newydd? Dyma rywbeth i chi! Cysylltwch Γ’ cymuned@micnpt.cymru am fwy o wybodaeth. πŸŽ»

Parhaodd Caffi Cymraeg Gwaun Cae Gurwen i gwrdd pob bore dydd Mawrth ar Zoom i sgwrsio ac i ymarfer eu hiaith Gymraeg. Hefyd aeth staff y Fenter i ymweld Γ’ chriw Caffi Cymraeg Y Creunant yn ystod y mis. Ydych chi'n edrych am sesiwn i ymarfer eich Cymraeg yn anffurfiol? Cliciwch yma i weld y sesiynau sydd yng Nghastell-nedd Port Talbot. 🏴󠁧󠁒󠁷󠁬󠁳󠁿 ** Ewch i dudalen Facebook y Fenter i weld diweddariadau am y sesiynau (i ymwneud Γ’ COVID-19).

Roedd ein swyddog datblygu wedi cynnal mwy o sesiynau 'Cwis Dim Clem' gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg y sir. Rydym yn edrych ymlaen at weld sut bydd yr ysgolion yn gwneud dros y misoedd nesaf! πŸ†

Ar nos Fercher yr 8fed o Ragfyr cawsom noson Gweithdy Creu Torch Nadolig gyda Blodau Blodwen. Roedd hi'n noson arbennig llawn sgwrsio a joio gyda mins pei a 'mulled wine.' Diolch i bawb am ddod! Edrychwn ymlaen at drefnu rhywbeth tebyg eto! πŸŽ€

Yn anffodus cafodd lot o'n digwyddiadau ei ohirio neu ail drefnu oherwydd COVID-19, yn cynnwys sesiynau crefftau, canu, gemau a chwis Nadolig. Er gwaethaf hynny cawsom fis hynod o brysur a llwyddiannus! πŸ˜ƒ

Blwyddyn Newydd Dda i chi! 🏴󠁧󠁒󠁷󠁬󠁳󠁿

Cofiwch i ddilyn ein cyfryngau cymdeithasol i gadw lan gyda phob peth #cymraeg sy'n digwydd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn 2⃣0⃣2⃣2⃣.

πŸ‘‡πŸ‘‡πŸ‘‡

Dilynwch ni ar Facebook!

Hoffwch ni ar Twitter!

Dilynwch ni ar Instagram!

Dilynwch ni ar Spotify!

#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg

**Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gadw lan gyda phob peth Cymraeg sy'n digwydd yn sir CNPT: CliciwchΒ yma**

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *