"Ardderchog ! Iaith a Taith gyda Iolo"
🚶♀️🌳🐦⛅️🎶🎸🏴
Ar ddydd Sadwrn 23ain o Ebrill aeth 40 o bobl ar daith gerdded o gwmpas Parc Margam gyda'r naturiaethwr a’r cyflwynydd teledu Iolo Williams. Roedd hi'n gyfle i ddysgwyr ddod i adnabod siaradwyr rhugl yn eu hardal nhw, i gymdeithasu ac i ddysgu am y byd natur. Ar ddiwedd y daith cafodd pawb gwledd o fiwsig Cymraeg yng nghwmni Bronwen Lewis yn y castell. Am ddiwrnod arbennig i ddathlu ein pen-blwydd yn 20 mlwydd oed!
Mae teithiau cerdded ‘Ar Droed’ yn brosiect ar y cyd rhwng Mentrau Iaith Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd tair taith gerdded ar ôl rhwng mis Mai a mis Gorffennaf mewn gwahanol ardaloedd o Gymru:
· Ardal Dinbych: 8 Mai
· Cwm Idwal, Parc Cenedlaethol Eryri: 29 Mehefin
· Libanus, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: 4 Gorffennaf
Mae'r teithiau yn rhan o her #MiliwnOGamau Mentrau Iaith Cymru – ymdrech grŵp i gerdded miliwn o gamau rhwng Ebrill a Gorffennaf 2022. Y gobaith yw rhoi mwy o gyfleoedd i bobl gymdeithasu yn Gymraeg, a helpu i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr.
Yn ogystal â theithiau cerdded gydag Iolo Williams, bydd nifer o deithiau cerdded lleol yn cael eu cynnal ar yr un diwrnodau er mwyn ceisio cyrraedd targed y miliwn o gamau a chynnig digon o gyfleoedd i gymdeithasu yn Gymraeg.
#Cymraeg2050





