Mai 2022! ☀️

Mai 2022! ☀️

Mae mis arall wedi hedfan heibio!

Ar ddechrau'r mis cawsom ni Bore Coffi yn Neuadd Les Ystradgynlais. Cyfle i bobl yr ardal i ddod o gymdeithasu a mwynhau yn y Gymraeg. Diolch i bawb a ddaeth! Hefyd, roedd y sesiynau sgwrsio/boreau coffi'r sir wedi parhau yn ystod y mis. Cliciwch yma i weld ble mae'r sesiynau yma yn digwydd. *Does dim Caffi Cymraeg Pontardawe ar hyn o bryd, ond cadwch lygaid allan am ddyddiad ail ddechrau cyn bo hir! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Roedd criw Cylch Canu wedi parhau i gwrdd ar ddydd Mercher yn Ysgol y Cribarth, Abercraf am gylch ti a fi. Braf i weld cymaint o deuluoedd yn dod i chwarae, mwynhau a chanu yn Gymraeg. Dilynwch Facebook Cylch Canu am fwy o wybodaeth. 😊🎨

Daeth ein sesiynau Gweithdy Gwerin i ben yn ystod y mis. Cawsom ni cyfanswm o 6 sesiwn yn Nhŷ'r Gwrhyd, Pontardawe. Cyfle i ddysgu alawon traddodiadol Cymreig ac i fwynhau yn y Gymraeg. Diolch i Eiddwen am y sesiynau arbennig yma! Edrychwn ymlaen at gynnal sesiynau tebyg yn y dyfodol agos. 🪕

Cawsom ni Sesh Sŵn llwyddiannus unwaith eto ym mis Mai. Bydd ein sesiwn nesaf ar y 14eg o Fehefin. Ydych chi'n hoffi cerddoriaeth Gwerin? Dyma sesiwn i chi! Cysylltwch â datblygu@micnpt.cymru am fwy o wybodaeth. 🎶

Yn ystod y mis gwnaethom ni 12 sesiwn o fewn ysgolion cynradd Cymraeg a Saesneg y sir gyda 320 o blant. Roedd y sesiynau yn cynnwys ymweliadau gyda Magi Ann a sesiynau ymwybyddiaeth iaith. Diolch i Ysgol Cwmnedd (Saesneg), Ysgol Tywyn (Saesneg) ac YGG Tyle'r Ynn am y croeso. Cawsom ni lawer o hwyl a sbri yn y sesiynau ac roedd hi'n bleser i ymweld â chi. 😀

Cafodd blwyddyn 7 ac 8 Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur gwledd o gerddoriaeth ar ddiwedd y mis. Diolch i Candelas am y gigs arbennig o dda - Roedd pawb wedi cael amser anhygoel ar ddiwedd y tymor. 🎸🥳

Daeth dros 50 o siaradwyr Cymraeg newydd i Dŷ Tawe am noson gerddorol gyda Al Lewis ac Eadyth x Izzy Rabey ar yr 27ain o Fai. Diolch i chi gyd am ddod, roedd i'n noson wych! Cyfle i siaradwyr Cymraeg newydd i ddod i gymdeithasu a mwynhau yn yr iaith Gymraeg. *Digwyddiad ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe a Dysgu Cymraeg. 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🎸

Cawsom ni hanner tymor prysur iawn gyda dros 100 o deuluoedd yn dod i'n sesiynau gyda Siani Sionc ym Mharc Margam a chrefftau yn llyfrgell Gwaun Cae Gurwen. Dyna beth oedd mwynhau! Diolch i chi gyd am ddod! 🥳

Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio yn ein cymunedau dros y misoedd nesaf. Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld beth sy'n dod…😃

Dilynwch ni ar Facebook!

Hoffwch ni ar Twitter!

Dilynwch ni ar Instagram!

Dilynwch ni ar Spotify!

#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg

**Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gadw lan gyda phob peth Cymraeg sy'n digwydd yn sir CNPT: Cliciwch yma**

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *