,

Gorffennaf 2022 ☀️

Gorffennaf 2022 ☀️

I ble aeth mis Gorffennaf? 😄

Ar ddechrau'r mis roedd sesiwn Cymraeg yn y Cartref, ar y cyd gyda Dysgu Cymraeg Bae Abertawe ym Mhontardawe. Roedd staff y fenter yn gyfrifol am weithgareddau i'r plant a chawsom ni prynhawn o grefftau, chwarae a mwynhau. Diolch i bawb am ddod! 🖍️🎨

Cawsom ni ein sesiynau olaf o Amser Canu yn Llyfrgell Gwaun Cae Gurwen. Diolch i chi gyd am fynychu'r sesiynau, rydym yn edrych at drefnu mwy o sesiynau o fis Medi ymlaen. Oes gennych chi hoff hwiangerddi? Cliciwch yma am daflen canu MICNPT! 🎶⭐️

Roedd criw Cylch Canu wedi parhau i gwrdd ar ddydd Mercher yn Ysgol y Cribarth, Abercraf am gylch ti a fi. Braf i weld cymaint o deuluoedd yn dod i chwarae, mwynhau a chanu yn Gymraeg. Dilynwch Facebook Cylch Canu am fwy o wybodaeth. 😊🎨

Parhaodd Caffi Cymraeg/Boreau Coffi Gwaun Cae Gurwen, Creunant ac Aberafan cwrdd yn ystod y mis. Sesiynau i bobl yr ardal i ymarfer a chymdeithasu yn Gymraeg yn anffurfiol dros baned. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. *Does dim Caffi Cymraeg Pontardawe ar hyn o bryd, ond cadwch lygaid allan am ddyddiad ail ddechrau cyn bo hir! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Cawsom ni Sesh Sŵn llwyddiannus unwaith eto yn ystod y mis. Bydd ein sesiwn nesaf ar y 9fed o Awst. Ydych chi'n hoffi cerddoriaeth Gwerin? Dyma sesiwn i chi! Cysylltwch â datblygu@micnpt.cymru am fwy o wybodaeth. 🪕

Aeth ein swyddog ieuenctid ar daith i Thorpe Park ar y 14eg o Orffennaf gyda chriw o blant Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur. Cyfle i'r plant i gael diwrnod o hwyl ar ddiwedd tymor yr haf ac i gymdeithasu yn Gymraeg tu allan i'r dosbarth. Am joio! 🎢

Ar ddydd Gwener y 15fed o Orffennaf roedd Gig Tanio'r Ddraig nôl wyneb i wyneb am y tro cyntaf ers 2019, gyda dros 300 o blant. Diwrnod o ddathlu Cymreictod ac i fwynhau gig Gymreig ar ddiwedd tymor yr haf yng nghanolfan celfyddydau Pontardawe. Diolch i Grace Hooper, Bronwen Lewis a Chandelas am eu perfformiadau arbennig! Cafodd y plant amser gwych yn dawnsio a chanu gyda chi! Diolch hefyd i Steffan Crocker am arwain y gig. Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn nesaf yn barod! 🎸🎤🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🤩

Ar ddiwedd y mis roedd Gŵyl Haf PlanTawe, ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe a Chymraeg i blant yng Nghlydach. Bore o grefftau, chwarae, canu ac ymweliad gan Magi Ann - dyna beth oedd joio! Diolch i bawb am fynychu'r sesiwn, roedd hi'n braf i weld chi gyd wyneb i wyneb eto. Cofiwch i ddilyn PlanTawe ar Facebook i gadw lan gyda phob digwyddiad - Mae'r Nadolig ar y ffordd.... 🎨🎵🧸

Felly, roedd rhywbeth at ddant pawb yn ystod Gorffennaf. Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth yn ystod y mis!

Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio yn ein cymunedau dros y misoedd nesaf. Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld beth sy'n dod…😃

Dilynwch ni ar Facebook!

Hoffwch ni ar Twitter!

Dilynwch ni ar Instagram!

Dilynwch ni ar Spotify!

#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg

**Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gadw lan gyda phob peth Cymraeg sy'n digwydd yn sir CNPT: Cliciwch yma**

Leave a reply

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *