Allgyrsiol

Allgyrsiol

Menter Castell-nedd Port Talbot

Mae Menter Castell-nedd Port Talbot yn ceisio cynnig amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol i bobl ifanc y sir. Yma, fe welwch engreifftiau o’r amrywiaeth yna.

Amledd

Mae Amledd yn cynnig gofod creadigol i chi ddatblygu eich doniau, boed hynny o flaen y meic neu wrth y ddesg gymysgu. Bob yn ail nos Fercher yn ystod tymor ysgol. Neuadd les Ystradgynlais 18:00-21:00.

Clwb Ieuenctid Trebannws

Mae’r Fenter yn gydweithio gyda Gwasanaethau Ieuenctid CNPT a Cyngor Tref Pontardawe er mwyn darparu clwb ieuenctid yn Nhrebannws i bobl ifanc dros 11. Mae’r clwb yn redeg bob nos Iau rhwng 6:30 ac 8:30 yn Neuadd Gymuned Trebannws. Mae’r clwb yn darparu amrywiaeth o weithgareddau o goginio i gelf a llawer mwy!

Hwb Pontardawe

Clwb Ieuenctid Cymraeg sy’n cwrdd bob nos Fercher rhwng 16:00 a 18:00 yn Nhŷ’r Gwrhyd, Pontardawe. Clwb am ddim ar gyfer pobl ifanc dros 11.  Byddwn yn paratoi bwyd ac yn cynnig ystod eang o weithgareddau hwyl.