Diwrnod Shwmae 2023

Diwrnod Shwmae 2023

Cafwyd wythnos brysur yn arwain at Ddiwrnod Shwmae eleni. Gyda llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau hwylog wedi'u cynllunio.

Yn ystod yr wythnos, ymwelodd Gwyr Y Stac â 4 ysgol gynradd leol i ddysgu caneuon iddynt ganu yn ystod y Cwpan y Byd. Cynhaliwyd sesiwn hwyliog i blant Cyfnod Allweddol Dau lle dysgodd y plant ganeuon a rhai symudiadau dawns newydd.

Ar ddydd Gwener, daeth Siani Sionc i Ganolfan Celfyddydau Pontardawe i berfformio i'r plant o'r ysgolion cynradd lleol. Yn y bore, cynhaliwyd sioe gan Siani Sionc i dros 400 o blant ac athrawon o ysgolion cynradd Cymraeg lleol. Yn y prynhawn gwelwyd 300 o blant o ysgolion cyfrwng Saesneg yn mynychu'r sioe. Gwnaeth Magi Ann hefyd ymddangos ar y llwyfan gyda Siani Sionc. Roedd y sioeau'n hwylus iawn gyda llawer o ganu a dawnsio. Roedd y plant i gyd yn hapus pan alwodd Siani Sionc ar eu hathrawon i ymuno â hi ar y llwyfan i ddawnsio i babi siarc.

Ar nos Wener, cawsom gig yn Ganolfan Celfyddydau Pontardawe gyda dau o'r bandiau mwyaf adnabyddus ar sin gerddoriaeth Cymru, Bwncath a Bwca. Agorodd Bwca'r noson gyda chasgliad o'u caneuon, fe wnaethon gynhesu’r gynulleidfa yn barod ar gyfer y prif Berfformiad, Bwncath. Rhoddodd Bwncath berfformiad anhygoel i bawb a oedd yn bresennol. Gorffennon nhw'r noson gyda'u trefniad o Yma o Hyd, â'r anthem genedlaethol. Roedd dros ddwy gant o bobl yn bresennol ar y noson.

Ar y Nos Sul, daeth The Gentle Good i Dafarn Tyn y Twr ym Maglan fel rhan o'u taith genedlaethol, sydd wedi'u gweld yn perfformio ym mhob rhan o Gymru. Aeth Melda Lois ati i agor y noson gyda pherfformiad ardderchog, arweiniodd at berfformiad The Gentle Good. Cafodd Gareth ei ymuno gan Jordan ar y Soddgrwth. Roedd y sain yn anhygoel. Roedd yn hyfryd gweld cynifer o wynebau hen a newydd yn y gynulleidfa

Diolch i bawb am ein cefnogi ni ar ddiwrnod Shwmae eto eleni, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i dderbyn gwybodaeth am y digwyddiadau nesaf.

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *