Yr Hen Galan ar Fenter

Yr Hen Galan ar Fenter

I ddathlu’r Hen Galan eleni trefnwyd gweithdai mewn rhai o ysgolion yr ardal i ddysgu’r disgyblion am draddodiadau'r Hen Galan. Geraint Roberts wnaeth arwain y sesiynau i ni mewn ffordd fywiog ddiddorol. Fe ddysgodd y plant caneuon pwncio. Cafodd y plant cyfle i berfformio sgript i ddangos sut oedd y Fari Lwyd a’r gymeriadau eraill yn mynd o amgylch tai pobl. Fe gawsant nhw hefyd cyfle i addurno Fari Lwyd eu hunen cyn gorffen gyda cherddoriaeth draddodiadol gan Geraint a bach o glocsio.

Ar nos Wener y 12/01 fe ddaeth dorf fawr o bobl i’r Ganolfan Celfyddydau ym Mhontardawe i glywed a gweld traddodiadau’r Hen Galan yn cael eu perfformio gan Geraint Roberts, Eiddwen ac Aneurin Jones a Tracey Hales. Fe oedd y lle yn orlawn a’r sain yn yr ystafell yn wych. Ddaeth Branwen a Carys i ganu calennig. Noswaith llawn canu, chwerthin a dysgu am draddodiadau lleol. I orffen y noswaith ddaeth y Fari Lwyd a’i griw i’r Ganolfan i bwncio a phoeni’r gynilleidfa. Braf oedd clywed adborth mor wych o’r noswaith a chadw’r traddodiadau yma yn fyw.

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *