
Dyma beth rydym ni wedi bod yn neud!
Cynhaliwyd wyth digwyddiad crefft a disgo tawel yn llyfrgelloedd ar draws Castell-nedd Port Talbot. Roeddwn hefyd wedi mynychu pedwar digwyddiad allanol i wneud gweithgareddau gwahanol ac i hyrwyddo ein gwaith. Wnaeth 1,200 o blant mynychu’r digwyddiadau hyn!
Roedd amryw o weithgareddau yn y digwyddiad hwn megis creu bathodynnau, lliwio a mwy! Ein thema blwyddyn yma oedd Natur, ar hyn o bryd mae swyddog Gwreiddiau Gwyllt yn gweithio gyda ni yma yng Nghastell-nedd Port Talbot darllenwch fwy yma.
Yn ogystal â hyn, ym mhob gweithgaredd crefft roedd disgo tawel yn chwarae cerddoriaeth Cymraeg. Roedd hyn yn boblogaidd iawn gydag ein siaradwyr Cymraeg ac ein siaradwyr di-gymraeg! Pwrpas y sesiynau oedd galluogi teuluoedd i wneud gweithgareddau am ddim yn eu cymunedau wrth ddefnyddio’r Gymraeg. Nad oedd nifer uchel yn siarad Cymraeg yn mynychu ym mhob digwyddiad ond roedd y gweithgareddau yn galluogi nhw i ymarfer a dysgu geiriau newydd. Roeddwn hefyd yn gallu hyrwyddo ein prosiectau a digwyddiadau gwahanol megis taith i Benclacwydd a gweithdai iwcalili sydd yn dechrau yn fuan - mwy o wybodaeth yma.

Diolch enfawr i’r llyfrgelloedd ac ein partneriaid am wahodd ni! Edrych ymlaen at flwyddyn nesaf yn barod! Os hoffech weld fwy o Fenter Iaith Castell-nedd Port Talbot tanysgrifiwch yma!

