Ar y pedwerydd ar hugain o Orffennaf, cynhaliwyd 9fed PlanTawe ym Mharc Waverley, Clydach. Roedd y digwyddiad ar y cyd rhwng Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot a Menter Iaith Abertawe.
Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at blant a theuluoedd Cwmtawe a’r cyffiniau. Roedd dros ddau gant o blant wedi mynychu eleni! Roedd yr haul yn tywynnu ac oedd amrywiaeth o weithgareddau i’r holl deulu. Daeth nifer o sefydliadau lleol i gefnogi, gan gynnwys Dysgu Cymraeg Bae Abertawe, Mudiad Meithrin, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe, Teulu CNPT, Siopau Tŷ Tawe a Thŷ’r Gwrhyd. Yn ogystal, cafwyd perfformiad a darlleniad stori i’r plant bach gan Siani Sionc, tra bu Organised Chaos yn cynnal sesiynau sgiliau syrcas.
Roedd PlanTawe yn ffordd wych o ddechrau’r gwyliau haf! Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth, i’n partneriaid, i Siani Sionc ac Organised Chaos am y gweithgareddau ac i Gyngor Cymuned Clydach. Edrych ‘mlaen i flwyddyn nesaf yn barod!

