,

☀️😊 Mai | May 😊☀️

☀️😊 Mai | May 😊☀️

Mae mis arall wedi hedfan heibio!

Roedd y fenter yn brysur iawn yn ystod mis Mai yn parhau i baratoi a gweithredu adnoddau/gweithgareddau digidol i drigolion CNPT!

Ein themâu yn ystod y mis oedd Cymdeithasu, Twm Siôn Cati, Gŵyl a'r Ardd. Rhannwyd llawer o adnoddau gwahanol i gyd fynd gyda'r themâu yn cynnwys rysaits, chwilair, helfa drysor, apiau i blant/oedolion, gemau, crefftau, cwisiau, cystadlaethau a rhestrau chwarae ar dudalen Spotify newydd y fenter (Menter Iaith CNPT - Dilynwch ni!😊). Hefyd cynhaliwyd bore coffi wythnosol ar ddydd Iau am 10am i bobl i ddod i gael sgwrs Cymraeg dros baned sydd wedi bod yn boblogaidd iawn yn enwedig gyda dysgwyr!

Yn ystod y mis cyhoeddwyd enillydd ein cystadleuaeth barddoniaeth, sef 'Y Stacwr' - diolch i bawb am gymryd rhan - ymdrech gwych gan bawb! 👍 Hefyd hoffwn ddiolch i Alyson Jenkins am rannu cyfres o erthyglau gyda ni ar sut i ymdopi ac edrych ar ôl eich hun yn feddyliol, yn gorfforol, ac yn ysbrydol wrth ynysu. Tudalen Facebook - Alyson Jenkins Executive and Life Coach.🌈

Ar 19eg o Fai mynychwyd 16 person i'n Sesh Sŵn digidol cyntaf - GWYCH! Diolch i chi gyd am ddod, bydd ein sesiwn nesaf ym mis Mehefin - cadwch lygaid ar ein tudalen Facebook am y dyddiad! Croeso cynnes i bawb! 🎸

Hefyd yn ystod Mai roedd rownd 1af ein Cystadleuaeth Minecraft, ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe. Cawsom ymateb da iawn i'r gystadleuaeth - Llongyfarchiadau i Dyfan a Mared am ennill. Gallwn weld ein hoff geisiadau ar ein tudalen Facebook! Gallwch hefyd weld y manylion am yr 2ail rownd! Pob lwc! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Ar ddiwedd y mis roedd y fenter wedi cyhoeddi cyfres newydd o'r enw 'Clonc a Chân.' Fideo i ddod i nabod pobl lleol sy'n serennu mewn meysydd amwywiol. Cyhoeddwyd pennod 1 ar nos Sadwrn 28th o Fai gyda Rhydian Jenkins, ennillydd ysgoloriaeth Bryn Terfel 2019. Ewch i dudalen Facebook/Youtube y fenter i ddod o hyd i'r fideo a chofiwch i adael sylw neu hoffi 👍🎶

Beth sydd i ddod?

Ein themâu am yr wythnosau nesaf fydd Fy Ardal Leol a Thywysogion! Hefyd cofiwch am ein bore coffi wythnosol, cystadleuaeth Minecraft a phennod 2 Clonc a Chân - bydd rhywbeth i bawb! 😊

Dilynwch a hoffwch ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gadw lan gyda phob peth rydym ni'n gwneud a gadewch sylwad os oes gennych unrhyw syniadau ar beth hoffech chi weld!

DIOLCH! 🌈☀️

              

 

 

 

 

 

 

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *