Caredigrwydd

Caredigrwydd

Ynysu Rhan 3

Diolch i Alyson Jenkins Life Coach am ysgrifennu’r erthygl yma i ni. 

Caredigrwydd

Mae’r wythnos yma (18 – 24 Mai) yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, a’r thema eleni yw caredigrwydd. Wrth ynysu mae cyfle i ni ddod i wybod sut i ddatblygu caredigrwydd a thosturi, felly dyma rhai syniadau ac awgrymiadau am garedigrwydd wrth i ni barhau i ynysu. 

Beth mae caredigrwydd yn golygu i chi? Mae yna lawer o ddiffiniadau ac mae caredigrwydd yn aml yn gysylltiedig â chysyniadau fel empathi, tosturi, allgaredd, a hefyd gyda gweithredu – i fod yn garedig. Mae astudiaethau yn canfod fod bod yn garedig yn gysylltiedig â chynnydd mewn hapusrwydd, lles a boddhad bywyd; mae pobl sy’n garedig yn dioddef llai o straen ac yn gwella ein lles emosiynol. Yn y bôn, mae caredigrwydd yn cael ei ysgogi gan deimladau dilys a chynnes tuag at bobl eraill.  Eto gyd, mae caredigrwydd tuag atoch chi eich hunan yn hanfodol, ac yn gosod sylfaen sydd yn ein galluogi i fod yn garedig tuag at eraill. 

Caredigrwydd atom ni ein hunain – Hunanofal  

Mae’n od i nifer ohonom i feddwl am roi ein hunain yn gyntaf – mae’n ymddangos yn hunanol. Mae ein cymdeithas wedi pwysleisio bod rhaid i ni rhoi eraill yn gyntaf!  Ychydig o benbleth. 

I fi, y ffordd orau o feddwl am hyn oedd wrth wahanu ‘Hunanofal’ a bod yn ‘Hunanol’. Ffordd arall o feddwl amdano – Hunan-Gofal  yn lle Hunan yn y Canol. 

Cyn i ni fod o werth ac yn ddefnyddiol i bobl eraill, rhaid i ni fod yn hapus ac yn iach eich hunain.

Corff
  • Bwyta’n dda – digon o lysiau a ffrwythau 
  • Anadlu’n ddwfn 
  • Symud. Unrhywbeth – lan a lawr y grisiau, mynd am dro, rhedeg, yoga, beth bynnag. Mae nifer o bethau ar YouTube, e.e. ‘Ymarfer corff dros 60’ ‘Yoga i ddechreuwyr’ a sianel Ffit Cymru 
Meddwl
  • Meddyliwch am sut i wir brofi unigedd a datblygu mwy o hunangariad a gwytnwch.
  • Oes yna lyfr rydych chi wedi bod yn marw eisiau darllen? Gweithdy twf personol yr hoffech chi ei gymryd? Gwnewch nawr!
  • Cysylltwch a siaradwch a phobl eraill.
Calon 
  • Canwch – yn y bath, yn y gegin, yn yr awyr agored. 
  • Rhannwch – unrhyw beth: losin, eich meddyliau, stori, jôc.
  • Rhowch – efallai arian i elusen (mae £5 yn helpu), blodau, siocled, carden yn y post, cusan x
Mae bywyd yn anodd i bawb

Wrth ragdybio bywydau eraill stopiwch am eiliad – yn aml mae’r syniadau sydd gennym yn anghywir. Syniad da yw meddwl cyn siarad, a gofyn y cwestiynau yma  – ydy’r hyn rydw i am ddweud yn angenrheidiol, ydy e’n ddefnyddiol, ac ydy e’n garedig?

Gwnewch beth y gallwch – mae pethau bach yn golygu gymaint:
  • Cynigiwch rannu sgiliau gyda ffrind trwy alwad fideo – e.e. gallwch chi rannu rysáit,  dysgu gitâr.
  • Ffoniwch ffrind nad ydych chi wedi gweld ers sbel.
  • Dywedwch wrth rywun faint rydych chi’n ei caru a’u gwerthfawrogi.

Anogwch a chefnogwch eraill pan fydd bywyd yn anodd

Anogwch a chefnogwch eich hun pan fydd bywyd yn anodd.

Bwriad

Pan fydd gennych y bwriad i fod yn garedig, bydd yr ystum lleiaf o gariad – hyd yn oed os yw’n teimlo’n lletchwith i ddechrau – yn maethu’ch calon a rhoi pleser i rywun arall. 

Rwyf ar gael ar hyn o bryd yn rhoi hyfforddiant dros y ffon, neu ar Zoom/Skype – y sesiwn gyntaf yn rhad ac am ddim. Rhowch galward neu danfonwch ebost.  Gweler: Alyson Jenkins 

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *