Ynysu Rhan 3
Diolch i Alyson Jenkins Life Coach am ysgrifennu’r erthygl yma i ni.
Caredigrwydd
Mae’r wythnos yma (18 – 24 Mai) yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, a’r thema eleni yw caredigrwydd. Wrth ynysu mae cyfle i ni ddod i wybod sut i ddatblygu caredigrwydd a thosturi, felly dyma rhai syniadau ac awgrymiadau am garedigrwydd wrth i ni barhau i ynysu.
Beth mae caredigrwydd yn golygu i chi? Mae yna lawer o ddiffiniadau ac mae caredigrwydd yn aml yn gysylltiedig â chysyniadau fel empathi, tosturi, allgaredd, a hefyd gyda gweithredu – i fod yn garedig. Mae astudiaethau yn canfod fod bod yn garedig yn gysylltiedig â chynnydd mewn hapusrwydd, lles a boddhad bywyd; mae pobl sy’n garedig yn dioddef llai o straen ac yn gwella ein lles emosiynol. Yn y bôn, mae caredigrwydd yn cael ei ysgogi gan deimladau dilys a chynnes tuag at bobl eraill. Eto gyd, mae caredigrwydd tuag atoch chi eich hunan yn hanfodol, ac yn gosod sylfaen sydd yn ein galluogi i fod yn garedig tuag at eraill.
Caredigrwydd atom ni ein hunain – Hunanofal
Mae’n od i nifer ohonom i feddwl am roi ein hunain yn gyntaf – mae’n ymddangos yn hunanol. Mae ein cymdeithas wedi pwysleisio bod rhaid i ni rhoi eraill yn gyntaf! Ychydig o benbleth.
I fi, y ffordd orau o feddwl am hyn oedd wrth wahanu ‘Hunanofal’ a bod yn ‘Hunanol’. Ffordd arall o feddwl amdano – Hunan-Gofal yn lle Hunan yn y Canol.
Cyn i ni fod o werth ac yn ddefnyddiol i bobl eraill, rhaid i ni fod yn hapus ac yn iach eich hunain.
Corff
- Bwyta’n dda – digon o lysiau a ffrwythau
- Anadlu’n ddwfn
- Symud. Unrhywbeth – lan a lawr y grisiau, mynd am dro, rhedeg, yoga, beth bynnag. Mae nifer o bethau ar YouTube, e.e. ‘Ymarfer corff dros 60’ ‘Yoga i ddechreuwyr’ a sianel Ffit Cymru
Meddwl
- Meddyliwch am sut i wir brofi unigedd a datblygu mwy o hunangariad a gwytnwch.
- Oes yna lyfr rydych chi wedi bod yn marw eisiau darllen? Gweithdy twf personol yr hoffech chi ei gymryd? Gwnewch nawr!
- Cysylltwch a siaradwch a phobl eraill.
Calon
- Canwch – yn y bath, yn y gegin, yn yr awyr agored.
- Rhannwch – unrhyw beth: losin, eich meddyliau, stori, jôc.
- Rhowch – efallai arian i elusen (mae £5 yn helpu), blodau, siocled, carden yn y post, cusan x
Mae bywyd yn anodd i bawb
Wrth ragdybio bywydau eraill stopiwch am eiliad – yn aml mae’r syniadau sydd gennym yn anghywir. Syniad da yw meddwl cyn siarad, a gofyn y cwestiynau yma – ydy’r hyn rydw i am ddweud yn angenrheidiol, ydy e’n ddefnyddiol, ac ydy e’n garedig?
Gwnewch beth y gallwch – mae pethau bach yn golygu gymaint:
- Cynigiwch rannu sgiliau gyda ffrind trwy alwad fideo – e.e. gallwch chi rannu rysáit, dysgu gitâr.
- Ffoniwch ffrind nad ydych chi wedi gweld ers sbel.
- Dywedwch wrth rywun faint rydych chi’n ei caru a’u gwerthfawrogi.
Anogwch a chefnogwch eraill pan fydd bywyd yn anodd
Anogwch a chefnogwch eich hun pan fydd bywyd yn anodd.
Bwriad
Pan fydd gennych y bwriad i fod yn garedig, bydd yr ystum lleiaf o gariad – hyd yn oed os yw’n teimlo’n lletchwith i ddechrau – yn maethu’ch calon a rhoi pleser i rywun arall.
Rwyf ar gael ar hyn o bryd yn rhoi hyfforddiant dros y ffon, neu ar Zoom/Skype – y sesiwn gyntaf yn rhad ac am ddim. Rhowch galward neu danfonwch ebost. Gweler: Alyson Jenkins
