,

 ☀️☀️ AWST ☀️☀️

 ☀️☀️ AWST ☀️☀️

☀️🖌️🎨👀🤩🎶

Cawsom fis prysur ym mis Awst. Roedd ein digwyddiadau/adnoddau wythnosol yn cynnwys miwsig, her ddyddiol, crefftau, helfa trysor, chwileiriau, rysaits a mwy! Hefyd roedd ein bore coffi wedi parhau am 10am pob bore dydd Iau. Sesiwn gwych i bobl yr ardal i ddod i ddefnyddio ac ymarfer eu iaith Cymraeg anffurfiol! Dilynwch y linc os hoffech ymuno â ni 👉 https://zoom.us/j/99666459549

Diolch i bawb am gymryd rhan yn ein cwis i'r teulu yn ystod y gwyliau. 👨‍👨‍👧‍👧  Tybed pwy gafodd y fwya' o'r cwestiynau yn gywir  ❓ ❓ Gallwch dal lan gyda'r cwis ar ein tudalen Facebook!  👉 Cwis Byw Teulu   POB LWC!

Yn ystod yr haf roedd Caffi Cymraeg Gwaun Cae Gurwen yn dal i gwrdd ar Zoom ar fore dydd Mawrth! Trefnwyd cwis yn un o'r sesiynau - cyfle arbennig i bobl yr ardal i ymarfer eu sgiliau Cymraeg syml! Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno ewch i dudalen Facebook LLyfrgell GCG 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 

Cawsom 2 sesiwn Cylch Canu ar Zoom ym mis Awst. Diolch i bawb am ymuno â ni am sesiwn canu a stori Cymraeg! 🙂 Cadwch lygaid ar dudalen Facebook Cylch Canu am ddyddiadau'r sesiynau nesaf!

Yn ystod y mis cawsom bennod 6 a 7 o 'Clonc a Chan' gyda Hannah a Joe Brier a Rowland Phillips. Cyfle arbennig i ddod i nabod ein sêr lleol trwy sgwrsio a chwarae gemau dwl. Diolch i'r ddau am eu sgwrs ddiddorol ac am rannu eu profiadau gyda ni! Gallwch ddal lan gyda'r gyfres ar ein tudalen Youtube 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Ail ddechreuoedd grŵp cerdded LingdiLong yn ystod gwyliau'r haf. Mae'r grŵp wedi trefnu teithiau cerdded wythnosol o gwmpas Castell-nedd Port Talbot ac Aberatwe. Am fwy o fanlyion cysylltwch â menter@micnpt.cymru - Croeso cynnes i bawb! 🚶🚶‍♀️

Ar ddiwedd y mis cynhaliwyd sesh sŵn digidol ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe. Diolch i bawb am ddod! Eto roedd hi'n sesiwn llwyddiannus iawn ac yn sesiwn rydym yn edrych ymlaen at bob mis! 🎻Cadwch lygaid ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am ddyddiad y sesiwn nesaf! 🎼

Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth yn ystod gwylia'r haf! Edrychwn ymlaen at barhau i greu a rhannu stwff digidol gyda chi yn ystod mis Medi!

Cofiwch i hoffi/dilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gadw lan gyda phob peth rydym yn wneud! DIOLCH!

👇👇👇

Dilynwch ni ar Facebook!

Hoffwch ni ar Twitter!

Dilynwch ni ar Instagram!

 

       

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *