☀️
Cawsom fis prysur ym mis Awst. Roedd ein digwyddiadau/adnoddau wythnosol yn cynnwys miwsig, her ddyddiol, crefftau, helfa trysor, chwileiriau, rysaits a mwy! Hefyd roedd ein bore coffi wedi parhau am 10am pob bore dydd Iau. Sesiwn gwych i bobl yr ardal i ddod i ddefnyddio ac ymarfer eu iaith Cymraeg anffurfiol! Dilynwch y linc os hoffech ymuno â ni 👉 https://zoom.us/j/99666459549
Diolch i bawb am gymryd rhan yn ein cwis i'r teulu yn ystod y gwyliau. 👨👨👧👧 Tybed pwy gafodd y fwya' o'r cwestiynau yn gywir ❓ ❓ Gallwch dal lan gyda'r cwis ar ein tudalen Facebook! 👉 Cwis Byw Teulu POB LWC!
Yn ystod yr haf roedd Caffi Cymraeg Gwaun Cae Gurwen yn dal i gwrdd ar Zoom ar fore dydd Mawrth! Trefnwyd cwis yn un o'r sesiynau - cyfle arbennig i bobl yr ardal i ymarfer eu sgiliau Cymraeg syml! Am fwy o wybodaeth ar sut i ymuno ewch i dudalen Facebook LLyfrgell GCG
Cawsom 2 sesiwn Cylch Canu ar Zoom ym mis Awst. Diolch i bawb am ymuno â ni am sesiwn canu a stori Cymraeg! 🙂 Cadwch lygaid ar dudalen Facebook Cylch Canu am ddyddiadau'r sesiynau nesaf!
Yn ystod y mis cawsom bennod 6 a 7 o 'Clonc a Chan' gyda Hannah a Joe Brier a Rowland Phillips. Cyfle arbennig i ddod i nabod ein sêr lleol trwy sgwrsio a chwarae gemau dwl. Diolch i'r ddau am eu sgwrs ddiddorol ac am rannu eu profiadau gyda ni! Gallwch ddal lan gyda'r gyfres ar ein tudalen Youtube
Ail ddechreuoedd grŵp cerdded LingdiLong yn ystod gwyliau'r haf. Mae'r grŵp wedi trefnu teithiau cerdded wythnosol o gwmpas Castell-nedd Port Talbot ac Aberatwe. Am fwy o fanlyion cysylltwch â menter@micnpt.cymru - Croeso cynnes i bawb! 🚶🚶♀️
Ar ddiwedd y mis cynhaliwyd sesh sŵn digidol ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe. Diolch i bawb am ddod! Eto roedd hi'n sesiwn llwyddiannus iawn ac yn sesiwn rydym yn edrych ymlaen at bob mis! Cadwch lygaid ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am ddyddiad y sesiwn nesaf!
Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth yn ystod gwylia'r haf! Edrychwn ymlaen at barhau i greu a rhannu stwff digidol gyda chi yn ystod mis Medi!
Cofiwch i hoffi/dilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gadw lan gyda phob peth rydym yn wneud! DIOLCH!



