




GDPR a’r Cynllun Profi, Olrhain a Diogelu
Menter Castell-nedd Port Talbot
Cyflwyniad
Mae data personol sy’n cael ei prosesi dan strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu’r Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys casglu, cofnodi a rhannu data personol, yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Mae hyn yn darparu nifer o seiliau cyfreithlon y dibynnir arno i sicrhau fod prosesu o’r fath yn cael ei ystyried yn gyfreithlon. Proseswyd y data ar sail Erthygl 6(e) y GDPR, gan fod ei angen i gyflawni tasg gyhoeddus. Lle defnyddir gwybodaeth yn ymwneud â chyflyrau iechyd, yna dibynnir ar Erthygl 9(2) (h) y GDPR Darparu meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, iechyd neu ofal cymdeithasol neu driniaeth, neu reoli systemau iechyd neu ofal cymdeithasol ac Erthygl 9(2) (i) y GDPR Iechyd y Cyhoedd. Rhai o’r deddfwriaethau sy’n ategu’r bwriad o ddibynnu ar erthyglau uchod y GDPR yw:
- Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984
- Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd (Rheoli Gwybodaeth Cleifion) 2002
- Rheoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010
- Deddf Coronafeirws 2020
- Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020
Lle defnyddir data personol i gyflawni tasgau cyhoeddus er mwyn cyflwyno gwasanaethau a dyletswyddau er budd y cyhoedd, ystyrir mai caniatâd yw’r sail gyfreithlon leiaf priodol i ddibynnu arno.
Felly, mae’n rhaid i’r Fenter rhannu manylion plant hyd yn oed os yw rhiant wedi rhoi gwybod i ni na ellir rhannu’r wybodaeth tu allan i’r sefydliad neu wedi dweud yn benodol na ellir ei rannu â’r cynllun TTP.
Fel Menter Iaith, byddem yn troseddu trwy wrthod rhoi’r wybodaeth os daw cais. Nid oes angen caniatâd ysgrifenedig ar gyfer hyn.
Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cynhyrchu rhai canllawiau i unigolion o ran rhoi caniatâd: https://ico.org.uk/your-data-matters/does-an-organisation-need-my-consent/
