Beth rydym wedi bod yn gwneud dros yr haf!🎨
Yn ystod y gwyliau haf eleni, cynhaliwyd deuddeg gweithgaredd crefft ar draws y sir. Wnaeth 474 o blant mynychu'r digwyddiadau hyn. Roedd amryw o weithgareddau yn y digwyddiadau fel peintio, creu bathodynnau, lliwio, gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg ar y disco tawel a mwy! Roedd y sesiynau yn rhoi cyfle i blant i fod yn greadigol ac i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg!

Sesiwn o Sandfields 17/8 
Yn joio gwneud crefft a gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg 
Crefft a gweithgaredd gwahanol
PlanTawe!
Yn ogystal â hyn, yn ystod y gwyliau roeddwn wedi cynnal PlanTawe digwyddiad blynyddol ar y cyd â Menter Iaith Abertawe yng Nghlydach. Yn y dydd, daeth cwmnïoedd a sefydliadau lleol i wneud gwahanol weithgareddau fel sut i frwsio dannedd, gweithdai iwcalili a sgiliau syrcas.

Stondin Cynllun Gwen 
Magi Ann 
Plant yn creu bathodynnau 
Llinos yn arwain amser stori
Gig Dros Dro a Cledrau!
Yn y noson cawsom gig Cymraeg gyda Dros Dro, chwe aelod lleol ifanc o ysgol Maes y Gwendraeth a Bro Myrddin a Cledrau, band poblogaidd o Ogledd Cymru.

Cledrau yn perfformio!
Diolch enfawr i’r llyfrgelloedd, neuaddau cymunedol, cwmnïoedd lleol a’r cynghorau cymunedol am y gefnogaeth wrth drefnu’r digwyddiadau hyn!
