Ym mis Ebrill roedd y Fenter yn dathlu ei phen-blwydd yn 20 mlwydd oed a chawsom ni llawer o hwyl a sbri yn dathlu yn ystod ein sesiynau amrywiol!
Ar ddechrau'r mis roedd bore coffi yn Nhŷ'r Gwrhyd, Pontardawe. Cyfle i bobl yr ardal i ddod i sgwrsio a mwynhau yn y Gymraeg dros baned a chacennau blasus iawn! Diolch i chi gyd am ddod! Parhaodd bob Bore Coffi / Caffi Cymraeg lleol yn ystod y mis hefyd ym Mhontardawe, Creunant, Gwaun Cae Gurwen ac Aberafan. Cliciwch yma os ydych yn edrych am sesiwn i ymarfer eich iaith Gymraeg. ☕️
Yn ystod y mis daeth dros 100 o deuluoedd yr ardal i'n sesiynau i fwynhau yn y Gymraeg yn ystod gwyliau'r Pasg. Roedd y sesiynau yn cynnwys Boreau o hwyl ym Mhontardawe a Gwaun Cae Gurwen, Jambori gyda Siani Sionc a Magi Ann yng Nghastell-nedd, Helfa Drysor y Pasg ac Amser Canu ym Mhort Talbot a Gwaun cae Gurwen. Roedd y sesiynau i gyd yn ffantastig - Am ffordd i ddathlu ein pen-blwydd! 🎶🎨
Cawsom ni sesiynau hynod o lwyddiannus ym Mharc Margam yn ystod y gwyliau. Yn ystod wythnos gyntaf gwyliau'r Pasg aeth criw o blant o Ysgol Bro Dur ac Ystalyfera i gael sesiwn cyfeiriannau a 'go karts,' a chawsom ni diwrnod llawn hwyl yn gwneud crefftau a chwarae yn y castell. Yna, yr wythnos ar ôl aeth 3,247 o deuluoedd i'r Parc am ddiwrnod Archarwyr! Roedd y Fenter wedi trefnu Siani Sionc i fod yn rhan o'r diwrnod yma a chawsom ni 3 Jambori arbennig yn y tywydd braf! Diolch i bawb am ymuno â'r dawnsio a chanu Cymraeg! 🥳
Ar ddydd Iau 21ain o Ebrill daeth criw o blant i neuadd Llangatwg am sesiwn goginio gyda 'Cegin Mr Henry!' Roedd yr wyau Pasg gyda chacen caws yn edrych yn flasus iawn. Diolch i chi am ymuno gyda ni! 👩🍳
Cyn y gwyliau roedd Cylch Canu wedi parhau i gwrdd ar ddydd Mercher yn Ysgol y Cribarth, Abercraf am gylch ti a fi. Braf i weld cymaint o deuluoedd yn dod i chwarae, mwynhau a chanu yn Gymraeg. Dilynwch Facebook Cylch Canu am fwy o wybodaeth.
Yn ystod y mis gwnaethom sesiynau Ymwybyddiaeth Iaith yn ysgol gynradd Blaendulais a Chwmllynfell ac ysgol uwchradd Saesneg Dŵr y Felin. Sesiynau i drafod yr iaith Gymraeg, i son am y manteision o siarad yr iaith ac i annog y plant i ddysgu a defnyddio'r iaith ar bob adeg sy'n bosib. 🏴
Cawsom ni Sesh Sŵn llwyddiannus unwaith eto ym mis Ebrill. Bydd ein sesiwn nesaf ar y 10fed o Fai. Ydych chi'n hoffi cerddoriaeth Gwerin? Dyma sesiwn i chi! Cysylltwch â cymuned@micnpt.cymru am fwy o wybodaeth.
Dechreuodd prosiect newydd ym mis Ebrill o'r enw 'Gweithdy Gwerin.' Prosiect chwe wythnos o weithdai i ddysgu alawon traddodiadol Cymreig yn Nhŷ'r Gwrhyd, Pontardawe. Bydd y tri sesiwn olaf yn digwydd ar y 9fed, 16eg a 23ain o Fai. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â cymuned@micnpt.cymru. 🎻
Ar ddydd Sadwrn 23ain o Ebrill aeth 40 o bobl ar daith gerdded o gwmpas Parc Margam gyda'r naturiaethwr a’r cyflwynydd teledu Iolo Williams. Roedd hi'n gyfle i ddysgwyr ddod i adnabod siaradwyr rhugl yn eu hardal nhw, i gymdeithasu ac i ddysgu am y byd natur. Ar ddiwedd y daith cafodd pawb gwledd o fiwsig Cymraeg yng nghwmni Bronwen Lewis yn y castell. Am ddiwrnod arbennig i ddathlu ein pen-blwydd yn 20 mlwydd oed! Cliciwch yma i ddarllen mwy! 🌳🚶♀️
Efallai dyma'r mis Ebrill mwyaf prysur mae'r Fenter byth wedi cael? DIOLCH i chi gyd am fynychu ein sesiynau ac am eich cefnogaeth barhaol. Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld beth sy'n dod dros y misoedd nesaf… 😃
#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg
**Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gadw lan gyda phob peth Cymraeg sy'n digwydd yn sir CNPT: Cliciwch yma**





