🌤️🗺️👸❓♻️🎶
A dyna ni - mis arall wedi hedfan heibio! Rydym ni wedi cael mis anhygoel unwaith eto, llawn amrywiaeth o bethau hwylus i bawb!
Yn ystod y mis cawsom themau gwahanol yn cynnwys Fy Ardal Leol, Tywysogion (i ddathlu Dydd y Dywysoges Gwenllian 👸), Ailgylchu a Cherddoriaeth. Gyda phob thema roedd crefftau, rysaits, heriau, gemau, apiau, rhestrau chwarae ar dudalen Spotify newydd y fenter (Menter Iaith CNPT - Dilynwch ni!) a mwy!! Gallwch gael mynediad i bob dim ar ein tudalen Facebook neu wefan 👇
www.facebook.com/micnpt/
micnpt.cymru/adnoddau/
Cynhaliwyd 2 sesiwn Cylch Canu digidol ar Zoom yn ystod y mis hefyd. Sesiynau o sgwrsio, canu a stori Cymraeg i deuluoedd â phlant cyn oed ysgol. Am fwy o wybodaeth am y sesiynau sydd i ddod ewch i grwp Facebook y cylch 👉 www.facebook.com/cylchcanu/ - Croeso cynnes i bawb! 😃
Roedd ein bore coffi wythnosol yn llwyddiannus iawn yn ystod Mehefin gydag wynebau cyfarwydd yn dod 'nôl yn wythnosol a rhai newydd yn ymuno! Ymunwch â ni am sgwrs ac weithiau cwis Cymraeg anffurfiol dros baned pob bore dydd Iau am 10am ar Zoom! ☕️ 👉 https://zoom.us/j/99666459549
Hefyd gallwch ymuno â chriw Caffi Cymraeg, Llyfrgell Gwaun Cae Gurwen pob bore dydd Mawrth am 11:30am i ddefnyddio ac ymarfer eich iaith Cymraeg (addas i ddysgwyr). Cawsome quiz yn ystod y mis - sesiwn gwych! Hoffwch dudalen Facebook Llyfrgell GCG am wybodaeth ar sut i ymuno! 👇www.facebook.com/GCGLibrary/
DIOLCH unwaith eto i bawb am ddod i ail sesiwn Sesh Sŵn y fenter ar nos Fawrth 23ain o Fehefin ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe! Sesiwn swynol a hwylus iawn - mae gennym drigolion talentog iawn! Cadwch lygaid ar ein tudalen Facebook am ddyddiad y sesiwn nesaf! 🎶 🎶 (www.facebook.com/micnpt/)
Cystadleuaeth Minecraft (ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe) - Llongyfarchiadau i Tomos am ennill ail rownd ein cystadleuaeth Minecraft a diolch i bawb am gymryd rhan. Dilynwch y linc yma i weld rhai o'n hoff ymdrechion 👉 https://www.facebook.com/micnpt/videos/302306180810188/
Yn ystod y mis cafodd 2 pennod o'n cyfres 'Clonc a Chân' ei chyhoeddi - Lisa Rumble a Jed O'reilly. Os hoffech ddod i nabod yr artistiaid lleol yma'n fwy ac i wrando ar eu cerddoriaeth anhygoel cliciwch yma 👉 http://micnpt.cymru/cloncachan/
Beth sydd i ddod?
Mae gennym lawer o bethau cyffrous ar y gweilch ym mis Gorffennaf ! Ein themâu am yr wythnosau nesaf fydd Pêl-droed ac Iaith! Cofiwch am ein bore coffi wythnosol, cystadleuaeth Minecraft a fwy o bennodau o 'Clonc a Chân' - bydd rhywbeth i bawb!
📢📢 Edrych am rywbeth i wneud ar nos Iau 9fed o Orffennaf? Gig Ras yr Iaith! Gig gyda Kizzy Crawford, Welsh Whisperer a Gwilyn Bowen Rhys - ddim un i golli! 6pm ar dudalen Facebook Ras yr Iaith 👉 https://www.facebook.com/rasyriaith.cymru/
Dilynwch a hoffwch ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gadw lan gyda phob peth rydym ni'n gwneud a gadewch sylwad os oes gennych unrhyw syniadau ar beth hoffech chi weld!
DIOLCH!



