Chwefror 2022! 🎶

Chwefror 2022! 🎶

Roedd mis Chwefror yn brysur iawn gyda dathliadau Dydd Miwsig Cymru, Hanner Tymor a dechrau sesiynau Dydd Gwŷl Dewi! Hefyd, rhannom ni llawer o adnoddau ar ein cyfryngau cymdeithasol ar y thema Miwsig - Ewch i weld beth sydd ar gael i chi! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Ar ddechrau'r mis cawsom sesiynau arbennig yn Ysgolion Cynradd cyfrwng Saesneg Baglan a Chwmnedd. Sesiynau hwyl i godi ymwybyddiaeth o ddydd Miwsig Cymru ac i rannu cyfleoedd sydd ar gael i bawb i ddysgu a siarad mwy o Gymraeg tu allan i'r ysgol. Diolch i'r ysgolion am y croeso cynnes!

Ar y 4ydd o Chwefror cafodd drigolion Castell-nedd Port Talbot gwledd o gerddoriaeth ar ddydd Miwsig Cymru gyda Gildas a Bwca. Diolch i bawb am fynychu'r gig, roedd hi'n noson fendigedig yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe!

Cafodd disgyblion o Ysgol Ystalyfera Bro Dur sesiwn i ysgrifennu cân gyda Bardd Plant Cymru Casi Wyn, ar ddydd Miwsig Cymru. Cafodd ei chwarae ar Radio Cymru ar raglen Fore Cothi ar y 4ydd o Chwefror. Cliciwch yma i wrando nôl ar y rhaglen i glywed y gân arbennig yma! 📻

Cawsom Sesh Sŵn llwyddiannus unwaith eto ym mis Chwefror. Diolch i bawb am ddod - Bydd ein sesiwn nesaf ar y 8fed o Fawrth. Hoffi chwarae offeryn? Dyma rywbeth i chi! Cysylltwch â cymuned@micnpt.cymru am fwy o wybodaeth. 🎻 

Parhaodd Caffi Cymraeg Creunant a Gwaun Cae Gurwen cwrdd yn ystod y mis i sgwrsio ac i ymarfer eu hiaith Gymraeg. Ydych chi'n edrych am sesiwn i ymarfer eich Cymraeg yn anffurfiol? Cliciwch yma i weld y sesiynau sydd yng Nghastell-nedd Port Talbot. ** Ewch i dudalen Facebook y Fenter i weld diweddariadau am y sesiynau (i ymwneud â COVID-19).

Ar y 16eg o Chwefror cawsom sesiwn Grefftau yn Llyfrgell Gwaun Cae Gurwen. Roedd hi'n sesiwn llawn hwyl a sbri wrth greu lot o bethau hyfryd - Diolch i bawb am ddod! ✂️

Yn ystod hanner tymor roedd Helfa Drysor ar gael ym Mharc Craig y Nos a Pharc y Gnoll. Cafodd dros 50 o bobl dro ar ddod o hyd i'r 9 llun gyda geiriau'r Gymraeg a oedd yn cuddio yn y parciau. Edrychwn ymlaen at wneud helfa arall yn ystod gwyliau'r Pasg.

Ar ddiwrnod olaf y mis cawsom ni diwrnod llawn sesiynau yn Ysgol Gynradd Coedffranc am ddydd Gŵyl Dewi. Roedd hi'n arbennig i gydweithio gyda'r ysgol cyfrwng Saesneg yma am y tro cyntaf ac i godi ymwybyddiaeth o ddydd Gŵyl Dewi a'r iaith Gymraeg. Diolch am y croeso cynnes!

Mae llawer o bethau cyffrous wedi ei threfnu ym mis Mawrth. Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol NAWR i weld beth sy'n dod… 😃

Dilynwch ni ar Facebook!

Hoffwch ni ar Twitter!

Dilynwch ni ar Instagram!

Dilynwch ni ar Spotify!

#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg

**Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gadw lan gyda phob peth Cymraeg sy'n digwydd yn sir CNPT: Cliciwch yma**

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *