Mae’r Mentrau Iaith a Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi eu bod yn cynnal Clwb Theatr Cymru eto eleni er mwyn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd creadigol a hybu sgiliau perfformio i blant ledled Cymru dros yr haf.
Bydd Clwb Theatr Cymru yn dod รข phlant Cymru ynghyd i fwynhau amrywiaeth o weithdai dros Zoom yn ystod gwyliau’r haf. Bydd y sesiynau – sy’n cael eu trefnu gan Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnwys cyfleoedd i ddawnsio, perfformio a chreu cymeriadau. Mae’r clwb yn addas i blant ysgolion cynradd o flynyddoedd 2-6.
Cafodd Clwb Theatr Cymru ei gynnal am y tro cyntaf ym mis Awst y llynedd, gyda’r cyfyngiadau Covid-19 yn golygu nad oedd clybiau haf i blant yn gallu digwydd. Profodd y clwb yn llwyddiant gan roi cyfle i 118 o blant o bob cwr o Gymru fwynhau รข’i gilydd.
Gwyliwch glip o Glwb Theatr Cymru 2020 ymaย
Mae’r Mentrau Iaith yn awyddus i gynnal gweithgareddau lu trwy’r flwyddyn i sicrhau bod plant ym mhob cwr o Gymru yn cael y cyfle i fwynhau defnyddio’r Gymraeg tu allan i’r ysgol.
Am fwy o wybodaeth, neu i gofrestru ar gyfer y clwb, ebostiwch cymuned@micnpt.cymru erbyn 16eg o Orffennaf.ย
