Cyflwyno Prosiect Gwreiddiau Gwyllt

Cyflwyno Prosiect Gwreiddiau Gwyllt

Mae'r Fenter yn hapus i gyhoeddi bod Jacques Mahé wedi cael ei benodi fel Swyddog Prosiect Gwreiddiau Gwyllt yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bwriad y prosiect yma yw ymgysylltu gyda chynulleidfa newydd er mwyn rhedeg prosiect a fydd yn cyflwyno gwahanol elfennau o dreftadaeth naturiol, hanes, chwedlau, archeoleg, enwau lleoedd ac enwau rhywogaethau i gyd yn Gymraeg a dwyieithog.

Mae'r prosiect yma wedi ei hariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a hoffwn ddiolch iddyn nhw am ei fuddsoddiad a ffydd ynddo ni i gyflawni'r prosiect yma ar y cyd gyda Menter Iaith Conwy a Mentrau Iaith Cymru. Byddwn yn mynd i'r afael â heriau amgylcheddol lleol a thu hwnt, gan ychwanegu at ddiddordeb a dealltwriaeth pobl o'u bröydd ar lefel treftadaeth, y Gymraeg a'r amgylchedd.

Bwriadwn i greu, defnyddio a rhannu adnoddau gwreiddiol a thrwy gyrff eraill er mwyn addysgu a chyflwyno enwau creaduriaid gwyllt, planhigion a choed yn ein cynefinoedd naturiol. Mae hyn er mwyn codi ymwybyddiaeth i fioamrywiaeth a phwysigrwydd gwarchod y llefydd yma yn enwedig wrth wynebu her cynhesu byd eang.

Anelwn i godi ymwybyddiaeth a gwarchod enwau lleoedd ac yn enwedig enwau rhywogaethau trwy gyflwyno’r enwau trwy hanes, chwedlau a storïau llen gwerin gyda'r amryw o grwpiau fydd yn rhan o'r cynllun hwn.

Rydym yn hynod gyffrous i roi'r prosiect ar waith a dechrau gweithio o fewn y rhanbarth.

Os hoffech dod o hyd i fwy o wybodaeth am y prosiect cliciwch yma i gysylltu gyda'r swyddog prosiect.

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *