DYDD MIWSIG CYMRU🎶

DYDD MIWSIG CYMRU🎶

Dyma ddiwrnod arbennig iawn yng nghalendr y Cymru. Diwrnod cyfan i ddathlu Cerddoriaeth Cymraeg!

Ar nos Wener y 5ed o Chwefror, heidiodd dros 90 o bobl i’n tudalen Facebook i wylio Gig Byw gan Bronwen Lewis. Roedd hi’n noson wych! Cyfle i ymlacio, chwerthin a mwynhau cerddoriaeth byw Cymraeg! Roedd yr ymateb yn ffantastig, a phawb i weld wedi mwynhau’r Gig yn fawr! 

 

Dyma rai o’r ymatebion;
‘Diolch yn fawr, noson fab!’
‘Diolch yn fawr Bronwen a Menter Iaith Castell-nedd’
‘Dy’n ni wedi mwynhau y gig. Diolch yn fawr Bronwen’
‘Noson ardderchog’

Pa ffordd well i ddathlu Dydd Miwsig Cymru drwy gael Gig Byw gan Bronwen Lewis o’ch lolfa? 

Os wnaethoch chi fethu’r Gig, peidiwch â phoeni! Mae’r Gig dal ar gael i wylio ar ein tudalen Facebook. Ewch draw i weld! https://www.facebook.com/micnpt/videos/744772323111879

Yn ystod y penwythnos ail-rannwyd rhai o fideos Candelas, Gildas a Gweithdy Beatbox Mr Phormula. Braf oedd cael y cyfle i fynd yn ôl i wylio’r fideos yma unwaith yn ragor a mwynhau’r gerddoriaeth! 

Gorffennwyd ein dathliadau Dydd Miwsig Cymru gyda Sesh Sŵn ar nos Fawrth y 9fed o Chwefror. Braf oedd gweld nifer wedi dod i fwynhau gwrando a chwarae rhai o Alawon a Chaneuon mwyaf adnabyddus Cymru. 

Roedd pawb wedi mwynhau’r noson mas draw ac wedi mwynhau cyd-ganu rhai o glasuron Cymru megis ‘Ar hyd y nos’, ‘Bing Bong Be’ a ‘Lawr ar lan y môr’. Roedd hi’n hyfryd gael cân fach hefyd wrth arweinwyr y noson. 

Er mai un diwrnod penodol yw Dydd Miwsig Cymru, parhewch i gefnogi a gwrando ar Gerddoriaeth Cymraeg! Ni’n ffodus iawn i gael cymaint o bobl talentog, boed yn gerddorfa, unigolion neu’n fand yma yng Nghymru yn cyfansoddi ac yn creu Cerddoriaeth wych! 

Daliwch ati i gefnogi Cerddoriaeth Cymraeg!

Leave a reply

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *