Ar ddydd Gwener y 5ed o Orffennaf, dathlwyd y 10fed flwyddyn o Gig Tanio’r Ddraig yn theatr Ysgol Gymraeg Ystalyfera! Roedd dros 300 o blant yn bresennol o 11 ysgol!
Roedd y gig gyntaf nôl yn 2014 ac ers hynny mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot, Ysgol Ystalyfera Bro Dur a’r Siarter Iaith wedi bod yn cynnal gigs yn flynyddol yn y Gymraeg i blant Castell-nedd Port Talbot. Eleni, roeddwn yn diolch i Meirwen Watts am ei holl waith caled yn trefnu’r gigs, codi arian ac ymgyrchu i sicrhau'r cyfle i ddisgyblion yr ardal i wrando ar gerddoriaeth gyfoes Cymraeg!

Nod y gig yw rhoi cyfle i ddisgyblion blwyddyn 6 i ddod i nabod i’w gilydd cyn mis Medi ac i wrando ar gerddoriaeth Cymraeg! Eleni roeddwn hefyd yn dathlu pen-blwydd Ysgol Gymraeg Cwmnedd yn 70 ac yn dathlu llwyddiant yr ysgolion i gyd yn ennill gwobrau Siarter Iaith! Da iawn i bawb!
Roedd perfformiadau byw gan Bwca band poblogaidd o Geredigion. Wnaeth pawb mwynhau dawnsio i ‘Elvis Rock’ a ‘Hiraeth’! Yn ail i’r llwyfan oedd Contra sef band o ddisgyblion blwyddyn 8 a 9 o Ysgol Ystalyfera. Maent yn barod wedi dechrau ysgrifennu caneuon gwreiddiol Cymraeg ac yn ddiweddar wedi cefnogi Dafydd Iwan! Dywedodd disgybl blwyddyn 6 ‘mae e mor cŵl gweld disgyblion Ystalyfera yn perfformio! Gobeithio gallwn ni cael cyfle i neud hynny!’
Olaf i'r llwyfan oedd Dros Dro, band ifanc o Gwm Gwendraeth a ffurfiwyd hefyd mewn ysgol. Erbyn nawr, maent yn fand adnabyddus sydd wedi perfformio ar draws Cymru! Wnaeth pawb ymuno â nhw wrth ganu'r gân olaf sef ‘Yma o hyd’.
Pob blwyddyn rydym yn gofyn i ddisgyblion blwyddyn 6 i ddylunio dyluniad ar gyfer y crys t. Eleni dyluniad Amari Smith o Ysgol Gwaun-Cae-Gurwen enillodd y gystadleuaeth ac oedd y dyluniad ar grys t pawb. Da iawn Amari! Hefyd roedd cystadleuaeth baneri, gofynnon i bob ysgol i greu baner ar gyfer y gig gyda phethau i wneud a’r Gymraeg a'r gig ac enillodd Ysgol Cwmllynfell! Da iawn chi!
Hefyd roedd ymwelwyr pwysig iawn wedi ymuno â ni - Seren a Sbarc! Roedd pawb wedi mwynhau dawnsio a chanu'r gan 'Tanio’r Ddraig' gyda nhw! Sef can a chafodd i’w hysgrifennu i blant Castell-nedd Port Talbot am bwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg ar draws y sir!
Tybed pwy fydd yn perfformio blwyddyn nesaf…
Gwrandewch ar setlist y gig yma!

