👨🍳🖌️🎨👀🤩🎶
Roedd mis Gorffennaf yn hynod o brysur i ni - ein mis mwyaf prysur yn ystod y cyfnod clo. Roedd ein digwyddiadau/adnoddau wythnosol yn cynnwys miwsig, crefftau, helfa trysor, chwileiriau, heriau, rysaits, bore coffi a mwy - roedd rhywbeth i bawb!
Ar y 1af o Orffennaf cynhaliwyd noson o adloniant yn 'Dafarn y Clo' ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe. Noson lwyddiannus iawn gyda dros 30 oedolyn yn mwynhau cerddoriaeth, cwisiau a sgwrsio Cymraeg - Diolch i chi gyd am ddod. 🎵 Diolch yn enwedig i Ken Thomas, Gildas, Jayne Williams a mwy am eu perfformiadau arbennig o dda - rydych yn gerddorion talentog dros ben. 🤩🏴
Cawsom wledd arbennig arall ar ddechrau'r mis hefyd gan Kizzy Crawford, Welsh Whisperer a Gwilym Bowen Rhys yn gig digidol Ras yr Iaith! 🎶 Gallwch ail wylio'r gig o dudalen Facebook Ras yr Iaith nawr - dim un i golli! 🤩
⚽️ Hoffwn ddiolch i bawb am gymryd rhan yn ein cystadleuaeth i ddarlunio cit Pêl-droed i dîm Menter Iaith CNPT - roedd hi'n gystadleuaeth agos iawn! Ein henillydd oedd Oli William o YGG Tyler Ynn - DA IAWN i ti, ymdrech arbennig! ⚽️
Am ddathliad diwedd flwyddyn trefnwyd gig rhithiol Tanio'r Ddraig i blant ysgolion cynradd Cymraeg CNPT, gan fod y cyfnod clo yn arbed ni i gynnal ein gig flynyddol yn gae Ysgol Ystalyfera. DIOLCH enfawr i Mr Phormula, Sian Richards, Gildas a Candelas am berfformiadau ANHYGOEL - oes ffordd well i ddathlu diwedd flwyddyn?! 🎶😎☀️ Gallwch ail wylio'r gig ar ein tudalen Facebook.
Yn ystod y mis cawsom bennod 4 a 5 o Clonc a Chan gyda Bronwen Lewis a Cleif Harpwood. Cyfle arbennig i ddod i nabod ein sêr lleol trwy sgwrsio a chwarae gemau dwl. Diolch i'r ddau am eu sgwrs ddiddorol ac am rannu eu profiadau gyda ni! Edrychwn ymlaen at bennod rhif 6 ym mis Awst! Gallwch ddal lan gyda'r gyfres ar ein tudalen Youtube 🏴
Ar ddiwedd y mis cynhaliwyd sesh sŵn digidol ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe. Diolch i bawb am ddod! Eto roedd hi'n sesiwn llwyddiannus iawn ac yn sesiwn rydym yn edrych ymlaen at bob mis! 🎻Cadwch lygaid ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am ddyddiad y sesiwn nesaf! 🎼
Yn ystod y mis cawsom wahanol themâu yn cynnwys Pêl-droed, Iaith ac ein hoff un oedd Diolch. DIOLCH i chi gyd am eich cefnogaeth dros y misoedd diwethaf, rydym yn hoff iawn o weld chi yn mwynhau ein digwyddiadau/adnoddau! Cofiwch i hoffi/dilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gadw lan gyda phob peth rydym yn wneud! DIOLCH!
👇👇👇


