Cystadleuaeth arbennig ‘Gwlad y Chants’ Mentrau Iaith a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Mentrau Iaith yn chwilio am ‘chants’ Cymraeg neu ddwyieithog newydd er mwyn i’r Wal Goch gefnogi Cymru, o gartref ac o’r dorf. Rydym ni eisiau i chi greu ‘chant’ pêl-droed – cân neu rap – i’r Wal Goch ei floeddio wrth gefnogi Cymru yn rownd derfynol Euro2020.
Bydd y gystadleuaeth yn agored i bawb gymryd rhan, gyda 3 chategori: cynradd, uwchradd ac oedolion. Gallwch gystadlu fel grŵp, unigolyn, ysgol neu glwb.
Bydd panel o feirniad yn dewis y tri uchaf ym mhob categori er mwyn mynd ymlaen i’r rownd derfynol.
Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis gan y cyhoedd ar bleidlais cyfryngau cymdeithaol.
GWOBRAU ARBENNIG
Bydd un crys arbennig wedi ei arwyddo gan garfan Euro2020 ar gael i fuddugwyr pob categori gyda chyfansoddwr y ‘chant’ gorau un yn cael y cyfle i ymweld â sesiwn ymarfer y garfan.
I gystadlu, anfonwch recordiad o’r ‘chant’ ynghyd â’r ffurflen gais at cymuned@micnpt.cymru erbyn y 5ed o Fai.
Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyhoeddi’r enillwyr ar y 3ydd o Fehefin, mewn pryd ar gyfer cefnogi Cymru yn nhwrnamaint Euro2020.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: cymuned@micnpt.cymru
