Mae Haf 2021 wedi dod i ben ac rydym ni wedi cael 7 wythnos arbennig! Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth ac am fynychu ein sesiynau amrywiol.
Roedd llawer o bethau wedi’u trefnu yn ystod y gwyliau i blant a phobl ifanc y sir. Sesiynau i roi cyfle iddyn nhw i gymdeithasu yn Gymraeg, dysgu sgiliau newydd a chael llawer o hwyl yn ystod gwyliau’r haf. Yn wythnos gyntaf y gwyliau cawsom Hwyl yr Haf, ar y cyd gyda Menter Iaith Abertawe a’r Urdd. Wythnos gyfan o sesiynau sgiliau hwyl yn cynnwys, Coginio gyda Mr Henry, Crefftau gyda Orielodl, Dawnsio gyda Jalisa, gemau a pharti. Yng nghanol y gwyliau roedd sesiynau rhithiol gyda Chlwb Theatr Cymru ar y cyd gyda Mentrau iaith Cymru unwaith eto - Sesiynau llwyddiannus iawn. Aeth criw o ysgol uwchradd Cymraeg y sir, Ysgol Gymraeg Bro Dur i sesiwn syrffio gyda Progress Surf School ar draeth Caswell a sesiwn glanhau’r traeth ar draeth Aberafan gyda Chadw’ch Cymru’n Daclus. Roedd pawb wedi cael amser arbennig ac yn edrych ymlaen at sesiynau tebyg eto. Yn ystod mis Awst cynhaliwyd clwb ieuenctid wythnosol ar-lein i blant oed 8 -16 - Sesiynau sgwrsio, rhannu syniadau ac i wneud ffrindiau newydd.
Cafodd llawer o bethau eu trefnu i deuluoedd yn ystod y gwyliau hefyd. Cawsom 2 sesiwn Picnic Tedi Bêr, Helfa Drysor ym mharc y Gnoll a pharc Craig y Nos, Bore o Hwyl a Sesiwn Goginio gyda Mr Henry. Roedd y sesiynau yma yn rhoi cyfle i deuluoedd i fwynhau, defnyddio, dysgu a/neu glywed yr iaith Gymraeg yn anffurfiol trwy ganu, sgwrsio a gwneud gweithgareddau amrywiol.
Yn ystod y gwyliau roedd digon o ddewis o ddigwyddiadau i’r gymuned - Sesiynau hwyl i gymdeithasu a mwynhau yn y Gymraeg. Roedd ein Sesh Sŵn misol yn wych fel arfer ac rydym yn edrych ymlaen at y sesiwn nesaf ar 14eg o Fedi. Cynhaliwyd 2 fore coffi rhithiol yn Awst ac roedd yn hyfryd i weld wynebau hen a newydd yn y sesiynau. Lansiodd cyfres newydd o bodlediadau yn ystod y mis o'r enw 'Yr Ardal a Fi.' Cafodd ein swyddog cymuned sgwrs ddifyr gyda sêr / partneriaid lleol, gan gynnwys Bronwen Lewis, Frosty's Pontrdawe a Thŷ'r Gwrhyd am amrywiaeth o bynciau diddorol. Gallwch wrando yma. Tuag at ddiwedd y gwyliau cawsom gystadleuaeth i ennill hamper barbeciw ar ein cyfryngau cymdeithasol - Cawsoch chi gyfle i gymryd rhan? Cyrhaeddom ni dros chwe mil o bobl - Anhygoel! Llongyfarchiadau i'r enillydd Beth Thomas.
Rhannwyd dros 20 adnodd newydd dros y gwyliau yn cynnwys Crefftau, Ryseitiau, Rhestrau chwarae, Geirfa, Chwileiriau, Gemau a mwy. Gallwch ddod o hyd i bopeth ar ein gwefan. Cofiwch i ddilyn ein cyfryngau cymdeithasol a thanysgrifiwch i’n cylchlythyr i gadw lan gyda phob peth Cymraeg yn sir Castell-nedd Port Talbot. Gweler isod.
Felly, hoffwn ni ddiolch i bawb am wneud ein gwyliau haf 2021 mor arbennig! Roedd hi’n un i gofio!
#Cymraeg #Cymraeg #Cymraeg
**Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr i gadw lan gyda phob peth Cymraeg sy'n digwydd yn sir CNPT: Cliciwch yma**

